Dewch a’ch syniad
Trwy ein rhaglen arloesi a arweinir gan her, byddwn yn rhoi’r cyfle i chi ddatrys heriau seiber go iawn a osodir gan fusnesau go iawn – yna rhoi’r cymorth sydd ei angen arnoch i droi eich datblygiadau arloesol mewn i llwyddiant masnachol.
Os gallwn nodi llwybr masnachol ar gyfer eich datrysiad, byddwn yn eich helpu i ddod ag ef i’r farchnad a’i werthu’n ôl i’r busnesau a wnaeth ddweud ei fod nhw ei angen
Adeiladwch eich tîm
A oes gennych chi ateb sydd yn eich barn chi’n fasnachol hyfyw, ond nad oes gennych y tîm i wneud iddo ddigwydd? Mae ein rhaglen her yn adeiladu timau o amgylch Arbenigwyr Gwybodaeth Parth i wireddu’r ateb hwnnw.
Trwy ein cysylltiadau â sefydliadau fel Airbus, Thales a CGI, byddwn yn eich helpu i brofi galw’r farchnad am eich datrysiad ac, os yw’n ymarferol, yn helpu i adeiladu’r tîm o’ch cwmpas i fynd ag ef i’r farchnad.
Ymunwch â chwmni cychwyn
Ydych chi’n unigolyn brwdfrydig ac egnïol sydd ag angerdd am ddatrys problemau? Efallai y bydd y daith gychwyn yn addas i chi.
Gwyddom y gall y syniad o ddechrau eich busnes eich hun fod yn frawychus. Efallai nad oes gennych unrhyw syniad sut y byddai’n gweithio. Dyna pam rydyn ni yma. Cysylltwch â ni, a byddwn yn siarad drwyddo fe gyda chi.
Rydym yn chwilio am ystod amrywiol o bobl. Efallai eich bod yn arloeswr gyda syniad y credwch y gallai fod yr ateb seiberddiogelwch mawr nesaf ond heb unrhyw syniad ble i ddechrau ei fasnacheiddio.
Efallai y byddwch yn teimlo bod angen rhywun â sgiliau masnachol, gwybodaeth datblygu busnes, neu sgiliau peirianneg meddalwedd arnoch i’ch helpu. Efallai mai chi yw’r athrylith fasnachol neu’r guru rhaglennu a allai helpu?
Rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i’ch partneriaid busnes delfrydol. Dyna rydyn ni’n ei wneud, ac mae gan ein partneriaid Hyb, hanes o ffurfio tîmau sy’n dod yn gwmnïau llwyddiannus.
Rydym yn gwneud y pethau hyn yn dryloyw. Rydyn ni’n dod o hyd i’r dalent orau, ac rydyn ni’n eich helpu chi i roi’r cyfan at ei gilydd i ffurfio tîm masnachol cytbwys a chryf.
Byddwn yn eich rhoi chi ar ein rhaglen entrepreneuriaeth unigryw, i’ch helpu i adeiladu eich model busnes. Byddwn yn eich partneru ag ymchwilwyr blaenllaw a phartneriaid diwydiant i sicrhau bod eich datrysiad ar flaen y gad yn y farchnad. Byddwn yn eich helpu i ddilysu eich datrysiad mewn senarios realistig. Byddwn hyd yn oed yn eich helpu i ddod o flaen buddsoddwyr.
Mewn 12 mis gallech fod yn rhedeg eich busnes eich hun. Beth ydych chi’n aros amdano?