James Lewis
Cyfarwyddwr Rhaglenni Masnachol a Newydd
Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Rhaglenni Masnachol a Newydd yn yr Hyb Arloesedd Seiber, James sy’n arwain y gwaith o ddylunio a darparu ein cymorth datblygu menter, gan helpu sylfaenwyr, ymchwilwyr ac arloeswyr i droi syniadau uchelgeisiol yn fusnesau seiber sy’n fasnachol hyfyw. Mae’n gweithio’n agos gydag unigolion a thimau i siapio eu taith entrepreneuraidd, o gael syniadau cynnar a dilysu’r farchnad i fentrau sy’n barod i’w lansio gyda sylfeini masnachol cryf.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad ar draws rolau masnachol, technoleg gwybodaeth a chychwyn busnes, mae gan James lawer o arbenigedd mewn entrepreneuriaeth, datblygu modelau busnes, dylunio cynnyrch, cyflawni prosiectau’n ystwyth, a strategaethau sy’n barod ar gyfer y farchnad. Ac yntau’n hyfforddwr proffesiynol cymwys, mae’n fedrus yn mentora sylfaenwyr drwy realiti ymarferol datblygu busnes, gan gynnwys ffurfio timau sy’n perfformio’n dda, cynnal prosesau dylunio cyflym, a mynd i’r afael â heriau graddio. Mae dull ymarferol James a’i hanes llwyddiannus o hyfforddi sylfaenwyr yn ganolog i genhadaeth yr Hyb i dyfu cwmnïau seiber newydd a chryfhau ecosystem arloesi’r DU.