
Amdanom ni
Nid dim ond technoleg yw seibrwydnwch. Mae’n ymwneud â phobl, diwylliant, a hyder. Rydym yn gwneud risgiau yn rhywbeth real drwy lwyfannau profi ac ymgolli, rhoi tystiolaeth bod angen i arweinwyr weithredu, a meithrin gallu parhaol drwy hyfforddiant a mentrau. Gyda’n gilydd, rydym yn paratoi sefydliadau i ddiogelu’r hyn sydd bwysicaf.

Pam Ni

Ein Nod
Trawsnewid De Cymru yn glwstwr seiberddiogelwch blaenllaw erbyn 2030 – gyda mwy o gwmnïau, mwy o bobl fedrus, a mwy o ddatrysiadau sy’n diogelu’r hyn sy’n bwysig.
Ein Gweledigaeth
Fel cwmni nid-er-elw sy’n gweithio i UK PLC, rydym yn bodoli i gadw’r wlad yn ddiogel. Rydym yn rhoi’r hyder, y sgiliau, a’r datrysiadau sydd eu hangen ar bobl, sefydliadau, a sectorau i feithrin seiberwydnwch o’r tu mewn.
Ein Nod
Rydym yn gwneud risgiau yn rhywbeth real drwy lwyfannau profi ac ymgolli, meithrin gallu drwy hyfforddiant ymarferol, a chefnogi syniadau beiddgar sy’n creu amddiffynfeydd newydd dibynadwy.
Ein Nod
Cipolwg drwy Ymgolli
Credwn fod pobl yn gweithredu pan welant beth sydd yn y fantol. Mae ein llwyfannau profi diogel ac ymgolli yn dod â bygythiadau seiber a chanlyniadau i’r golwg yn glir i arweinwyr a thimau. Drwy wneud digwyddiadau’n gyffyrddadwy, rydym yn helpu sefydliadau i adeiladu’r achos dros wydnwch ac i greu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn sydd ei angen i aros yn ddiogel.
Ein Gweledigaeth o ran Llwyfannau Profi
Dyna pam ein bod wedi datblygu 14 o amgylcheddau cludadwy, hunangynhwysol sy’n cwmpasu pob maes seilwaith cenedlaethol allweddol. Mae’r llwyfannau profi hyn yn caniatáu i dimau archwilio gwendidau’n ddiogel, ymarfer tactegau tîm coch a glas, a chael profiad ymarferol gyda rhwydweithiau a chaledwedd ICS go iawn. O uwchsgilio gweithlu’r DU i ddatblygu ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer diogelwch technoleg weithredol, mae ein llwyfannau profi yn troi risgiau cymhleth yn ddysgu ymarferol a gwydnwch sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Gallu Ymarferol
O hyfforddiant cryno i gyrsiau achrededig, rydym yn rhoi’r adnoddau i bobl ar bob lefel weithredu. Boed hynny’n hylendid seiber ar gyfer timau rheng flaen neu wneud penderfyniadau strategol ar gyfer arweinwyr, mae ein cyrsiau’n cau’r bylchau a ddatgelir mewn llwyfannau profi ac yn cryfhau gwydnwch o’r tu mewn allan.
Ein Gweledigaeth o ran Hyfforddiant
Mae diben ein hyfforddiant yn syml: meithrin cymhwysedd technegol. Pan fydd pobl yn ennill y sgiliau i wneud penderfyniadau’n hyderus, mae sefydliadau’n elwa o fwy o ymgysylltu, cymhelliant, a blaengaredd. Mae’r gallu hwnnw’n hybu morâl cryfach, mwy o gynhyrchiant, a diwylliant lle mae gwydnwch yn rhedeg drwy’r busnes.

Arloesi gyda Phwrpas
Mae angen atebion newydd ar gyfer rhai heriau. Dyna pam ein bod yn rhedeg Rhaglen Datblygu Menter, sy’n cefnogi arloeswyr ac arbenigwyr parth i ddatblygu datrysiadau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r heriau anoddaf sy’n wynebu’r diwydiant. Gyda mentora, cyllid, a rhwydweithiau, rydym yn helpu i droi syniadau beiddgar yn fusnesau sy’n diogelu’r hyn sy’n bwysig.

- Cyrsiau Hyfforddi
Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

- Cyrsiau Hyfforddi
“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

- Llwyfannau Profi
“Fel Prif Swyddog Diogelwch National Highways, rwy’n ymwybodol o fygythiadau seibr sy’n esblygu. Buom yn cydweithio â’r Hyb Arloesedd Seiber, gan ddefnyddio cyfleusterau llwyfannau profi ac ymgolli i efelychu ymosodiadau mewn lleoliad dan reolaeth. Fe wnaeth y dull ymarferol hwn wella ein dealltwriaeth o reoli bygythiadau a meithrin cydweithio a dysgu ar draws ein sefydliad.”

Rydym yn falch o fod wrth galon ecosystem seiber Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym mewn sefyllfa unigryw i fynd â De Cymru ar wib i fod yn glwstwr seiber byd-eang blaenllaw erbyn 2030. Gan weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, ynghyd â phartneriaid yn y diwydiant a’r llywodraeth, rydym yn cyflymu arloesedd, yn rhannu gwybodaeth, ac yn cryfhau gwydnwch ar draws sectorau. O fusnesau bach a chanolig i seilwaith allweddol, rydym yn adeiladu dyfodol lle nad ôl-ystyriaeth yw seiberddiogelwch, ond sylfaen ar gyfer twf.


Gadewch i ni feithrin seiberwydnwch gyda’n gilydd
O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.
Partneriaid dibynadwy










