Eicon Chwilio
Bwyd symudol

Yn eu Geiriau eu Hunain

  • Cyrsiau Hyfforddi

Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

Adrian Burke
Prif Weithredwr, Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf
  • Cyrsiau Hyfforddi

“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

Dŵr Cymru/Welsh Water
  • Llwyfannau Profi

“Fel Prif Swyddog Diogelwch National Highways, rwy’n ymwybodol o fygythiadau seibr sy’n esblygu. Buom yn cydweithio â’r Hyb Arloesedd Seiber, gan ddefnyddio cyfleusterau llwyfannau profi ac ymgolli i efelychu ymosodiadau mewn lleoliad dan reolaeth. Fe wnaeth y dull ymarferol hwn wella ein dealltwriaeth o reoli bygythiadau a meithrin cydweithio a dysgu ar draws ein sefydliad.”

Keith Price
Prif Swyddog Diogelwch, National Highways
  • Cyrsiau Hyfforddi

“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”

Tom O’Driscoll
Pennaeth Gweithrediadau Diogelwch a Chuddwybodaeth, National Highways
  • Busnesau newydd

“Fe wnaeth fy mhenderfyniad i ymuno â’r rhaglen Hyb Arloesedd Seiber ddeillio o uchelgais ers tro i sefydlu fy nghwmni fy hun. Mae’r rhaglen yn rhoi amrywiaeth o adnoddau a dulliau gwerthfawr i adeiladu busnes newydd llwyddiannus gan roi mwy o siawns i chi lwyddo. Cyn y rhaglen doedd gen i ddim llawer o wybodaeth am faes seiber ond o fewn 2 wythnos roeddwn i’n cael sgyrsiau gydag arbenigwyr yn y diwydiant seiber ac roeddwn i’n gallu eu deall! Mae’r rhaglen yn wych – o ryngweithio â’r diwydiant seiber ac arbenigwyr academaidd i fwynhau doethineb sylfaenwyr ysbrydoledig, heb sôn am y cyngor gwerthfawr gan bobl sydd wedi bod yno ac wedi llwyddo! Byddwn i’n argymell hyn yn fawr iawn i entrepreneuriaid uchelgeisiol.”

Ewan Daley
Sylfaenydd
  • Busnesau newydd

“Fe wnes i herio fy hun i deithio pellter o 4000 milltir o India i’r Deyrnas Unedig y llynedd gyda’r gobaith o wella fy nealltwriaeth o fusnes. Fis diwethaf, fe ges i gyfle gwych i fod yn rhan o’r rhaglen entrepreneuriaeth gyda Hyb Arloesedd Seiber i helpu gyda fy mreuddwyd i fod yn arweinydd busnes ym maes seiberddiogelwch. A finnau heb wybodaeth flaenorol nac arbenigedd mewn busnes, mae’r rhaglen wedi caniatáu i mi ddysgu mwy yn gyflym am adnabod anghenion cwsmeriaid mewn marchnad seiberddiogelwch gystadleuol, a sut mae lleoli datrysiadau newydd i greu cyfleoedd busnes.”

Simran
  • Cyrsiau Hyfforddi

“Yn ystod y sesiynau hyn, rwyf wedi datblygu fy nealltwriaeth o amrywiaeth o bynciau seiber ac wedi cael profiad ymarferol. Mae hyn wedi rhoi cyfle i mi ddod â sgiliau newydd i’r ystafell ddosbarth i gyfoethogi gwersi fy nisgyblion. Byddwn yn argymell y sesiynau hyn fel ffordd o wella’r cwricwlwm ac archwilio agweddau ar seiber na fyddech fel arfer yn cael cyfle i’w hastudio.”

Joe Hamer
Athro Technoleg Ddigidol a Chyfrifiadureg, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
  • Cyrsiau Hyfforddi

“Yng ngweithdy’r Hyb Arloesedd Seiber, mi ges i’r theori a’r cyfle i mi weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Byddwn i’n ei argymell yn fawr iawn. Fe wnes i hefyd fwynhau’r hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth a Hylendid Seiber gyda fy nhîm yng Nghymdeithas Adeiladu Principality, lle mae’r addysgu sy’n cael ei arwain gan y diwydiant yn darparu cyd-destun go iawn. Fe ddysgais i adnoddau a thechnegau newydd y gallaf eu defnyddio’n uniongyrchol yn fy rôl.”

Sam Portingale
Dadansoddwr Diogelwch Graddedig, Cymdeithas Adeiladu’r Principality

O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.