
Oes gennych chi syniad ar gyfer seiberddiogelwch? Gadewch i ni eich helpu i’w ddatblygu
Gennych chi mae’r ddealltwriaeth, fe wnawn ni eich helpu i adeiladu’r busnes. Fe wnawn ni baru eich syniad â’r tîm, a’r arbenigedd angenrheidiol a sicrhau ei fod yn cael ei ddilysu yn y byd go iawn. Gydag ariantal misol, mentora gan arbenigwyr, a mynediad at lwyfannau profi seiber, byddwch yn treulio 12 mis yn troi eich gweledigaeth yn fenter sy’n datrys problemau go iawn, ac sy’n sefyll ar ei thraed ei hun yn y byd go iawn.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am syniadau beiddgar sy’n mynd i’r afael â phroblemau seiberddiogelwch go iawn, o ddiogelu seilwaith allweddol i leihau risgiau o ddydd i ddydd. Efallai eich bod yn ymchwilydd, yn weithiwr proffesiynol gyda phroblem, neu’n rhywun sy’n gweld nad yw’r adnoddau presennol yn cyrraedd y nod. Os oes dyfnder technegol a photensial go iawn i’ch syniad, rydym yn awyddus i glywed gennych. Does dim rhaid i chi fod â thîm llawn neu gynllun dechrau. Dim ond problem sy’n werth ei datrys a’r angerdd i wneud rhywbeth amdani.
Sut byddwn yn eich helpu
Byddwn yn adeiladu tîm menter newydd o amgylch eich syniad, gan gyfuno craffter masnachol, datblygiadau technoleg, dealltwriaeth am gwsmeriaid, a mentora gan arbenigwyr. Byddwch yn cael ariantal misol, man gweithio, a chymorth ymarferol gan arbenigwyr, cynghorwyr masnachol, a mentoriaid seiber. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ein llwyfannau profi unigryw i brofi sefydlogrwydd eich datrysiad mewn amodau yn y byd go iawn. Rydym yn gweithio gyda diwydiant i nodi’r heriau go iawn, felly mae eich menter yn dechrau gyda’r galw, nid wrth ddyfalu. Y nod? Datrysiad ymarferol sy’n denu sylw, yn barod i’w lansio o fewn 12 mis.

Os oes gennych chi syniad sy’n gallu diogelu systemau, pobl neu ddata, gadewch i ni ei wireddu.
Pam adeiladu gyda ni?
Dilysu yn y Farchnad
Siapio eich syniad o amgylch problemau go iawn, defnyddwyr, a sylw.
Cymorth Ariannol
Ariantal misol er mwyn i chi allu canolbwyntio ar adeiladu.
Adeiladu’r Tîm Iawn
Rydym yn dod â’r dalent fasnachol, dechnolegol, a dylunio sydd ei hangen arnoch chi.
Mentora Arbenigol
Canllawiau gan arweinwyr y diwydiant, entrepreneuriaid, ac unigolion sydd â phrofiad o ddechrau busnes.
Gweithfan Gydweithredol
Gweithio ochr yn ochr â’ch tîm mewn hyb menter newydd bywiog.
Mynediad Arbennig
Defnyddiwch lwyfannau profi ac ymgolli i dreialu eich datrysiad cyn ei lansio.
Llwyddiannau

CyberSight
Mae CyberSight25 yn diffinio problemau seiber mwyaf dybryd y sector. Drwy gasglu gwybodaeth gan arbenigwyr seiberddiogelwch ar draws y byd, mae’n creu’r galw yn y farchnad ar gyfer busnesau newydd a datrysiadau yfory.


Academi PhD CyberInvent
CyberInvent yw ein Hacademi Doethuriaeth (PhD) a ariennir yn llawn ar gyfer arloeswyr y dyfodol sydd am droi heriau seiber y byd go iawn yn ymchwil gymhwysol ac yn effaith fasnachol. Byddwch yn cael astudiaeth ddoethurol wedi’i hariannu, cael eich mentora yn y diwydiant, a llwybr i’n Rhaglen Datblygu Menter, felly nid yw eich ymchwil yn eistedd ar silff, mae’n siapio’r dyfodol
Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer eleni wedi dod i ben, ond gallwch gysylltu â ni i fynegi eich diddordeb a chael gwybod pan fydd y rownd nesaf yn agor.

Meysydd Her
Mae ein rhaglen yn mynd i’r afael â heriau risg uchel, gwerth uchel y mae angen rhoi sylw iddyn nhw ar fyrder. O seilwaith clyfar a cherbydau cysylltiedig i gadwyni cyflenwi diogel, diogelu Technoleg Weithredol, a phrosesau amddiffyn wedi’u galluogi gan ddeallusrwydd artiffisial. Mae pob maes her yn adlewyrchu problemau go iawn a nodwyd drwy ymgysylltu cenedlaethol, deialog yn y diwydiant, a Llyfr Problemau NCSC. Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid fel Airbus, Thales a CGI i lunio’r blaenoriaethau hyn, gan sicrhau bod pob menter yn mynd i’r afael â galw gwirioneddol ac yn creu effaith lle mae hynny bwysicaf.
Rhowch her i ni
Nid ydym yn aros am syniadau gwych. Rydym yn gweithio gyda diwydiant, arweinwyr seilwaith, a’r llywodraeth i ddatgelu problemau allweddol sy’n werth eu datrys. Os yw eich tîm yn wynebu her, boed yn risg weithredol, yn fwlch mewn adnoddau, neu’n bwysau o ran cydymffurfio, cyflwynwch yr her. Gallwn helpu i’w siapio’n wybodaeth menter, dod o hyd i’r bobl iawn i’w datrys, a’i masnacheiddio drwy ein rhaglen.
Mae angen Cyd-sylfaenwyr ar Sylfaenwyr
Nid yw pob sylfaenydd yn dechrau gyda syniad, mae rhai yn dechrau gyda blaengaredd.
Rydym yn chwilio am ddatryswyr problemau chwilfrydig ac egnïol i ymuno â thimau busnesau newydd sy’n cael eu datblygu o amgylch syniadau seiber wedi’u dilysu. Efallai y byddwch yn dod â gwybodaeth fasnachol, sgiliau dylunio, dyfnder technegol, neu agwedd benderfynol i wneud i bethau weithio. Byddwn yn eich paru ag ymchwilwyr ac arbenigwyr parth, ac yn rhoi’r adnoddau i chi adeiladu rhywbeth go iawn.
Byddwch hefyd yn cael £1,750 bob mis, man gweithio, sesiynau mentora, a 12 mis i’ch helpu i siapio menter newydd gan greu effaith o’r diwrnod cyntaf un.





