
Sut mae’n gweithio
Efallai fod gennych chi’r datrysiad mawr nesaf o ran seiberddiogelwch, ond dim y llwybr clir i’w ddatblygu.
Dyna lle mae ein Rhaglen Datblygu Menter yn berthnasol. O gyllido ac adeiladu tîm i ddilysu a lansio, rydym yma i’ch helpu chi i fynd ymhellach, yn gyflymach.
Sut rydym yn gwireddu eich gweledigaeth

Beth ydych chi’n ei gael gennym ni?
Byddwn yn rhoi’r strwythur, y cymorth, a’r adnoddau i chi droi eich syniad yn fusnes go iawn, gyda chefnogaeth tîm a rhwydwaith dibynadwy. Dyma beth sy’n cael ei gynnig:
- Tîm llawn: Byddwch yn cael eich paru â chyd-sylfaenwyr sy’n dod â sgiliau masnachol, sgiliau technegol, a sgiliau cynnyrch
- £1,750 y mis yn ariantal: Cymorth ariannol er mwyn i chi allu canolbwyntio ar adeiladu.
- Man gweithio mewn hyb i fentrau newydd: Mynediad dyddiol at amgylchedd gwaith cydweithredol yng Nghasnewydd/Caerdydd.
- Mentora gan arbenigwyr yn y diwydiant: Cefnogaeth gan sylfaenwyr, buddsoddwyr, arweinwyr technegol, a chynghorwyr masnachol profiadol.
O ddiffinio cwmpas eich cyfle a dilysu eich syniad i adeiladu eich Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw (MVP) a chyflwyno eich cynnig er mwyn cael buddsoddiad, byddwn yn eich cefnogi ar bob cam. gyda’r strwythur, yr adnoddau, a’r gefnogaeth i adeiladu busnes newydd o’r gwaelod i fyny. Byddwch hefyd yn ymuno â chymuned ehangach o sylfaenwyr, ymchwilwyr, a gosodwyr heriau sy’n siapio dyfodol seiberddiogelwch.

Beth sydd ei angen arnom ni gennych chi?
Mae angen eich chwilfrydedd a’ch ymroddiad arnom ni, a’r angerdd i wneud rhywbeth real. Does dim angen cyd-sylfaenydd na chynllun busnes caboledig arnoch chi, dim ond problem glir a’r egni i’w datrys.
- Amser a ffocws: Bydd angen i chi ymrwymo’n llawn amser a gweithio gyda’ch tîm yn ein hyb mentrau newydd yng Nghasnewydd/Caerdydd.
- Parodrwydd i ddysgu: Byddwch yn barod i brofi tybiaethau, cael adborth, ac addasu’n gyflym.
- Meddylfryd aelod da o dîm: Byddwch yn gweithio â chyd-sylfaenwyr sy’n cael eu recriwtio ar gyfer eich syniad. Mae cydweithio’n allweddol.
Bydd angen i chi drwyddedu unrhyw eiddo deallusol cefndirol sydd gennych, er mwyn i’ch tîm allu adeiladu arno. Bydd unrhyw eiddo deallusol newydd a ddatblygir yn ystod y rhaglen yn cael ei ddal gan yr Hyb a’i ddychwelyd i’ch cwmni ar ddiwedd y 12 mis, yn gyfnewid am gyfran ecwiti fach i gydnabod y cymorth, y cyllid, a’r seilwaith rydym wedi’u darparu i’ch helpu i ddatblygu.
Y meysydd her
Rydym yn awyddus i ganfod, datblygu a dangos datrysiadau arloesol yn y meysydd a amlinellir isod. Mae’r meysydd her wedi cael eu dewis i gyd-fynd yn fras â’r heriau a nodwyd drwy ddeialog â phartneriaid a rhanddeiliaid yn y diwydiant, a thrwy lyfr problemau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
I ddeall y mathau o broblemau y mae arweinwyr ein diwydiant yn eu gweld, edrychwch ar CyberSight25 lle mae Prif Swyddogion Diogelwch Gwybodaeth, cyfarwyddwyr diogelwch, ac arbenigwyr yn amlinellu’r heriau mwyaf y mae angen i’r gymuned seiber eu datrys nesaf.
