
Yr Hyn y Mae Angen i Fyrddau ei Wybod: Gwersi o’n Cwrs Seiberwydnwch i Arweinwyr
Ni allwch ddirprwyo arweinyddiaeth mewn argyfwng.
Dyna oedd un o’r gwersi mwyaf pwerus o’n sesiwn ddiweddar Seiberwydnwch i Gyfarwyddwyr ac Uwch Arweinwyr. Cwrs hanner diwrnod, wedi’i sicrhau gan yr NCSC, sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y bobl sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb pennaf pan fydd digwyddiad seiber yn taro.
Mae llawer o arweinwyr yn dweud wrthym eu bod yn gwybod bod seiber yn hollbwysig. Ond nid ydynt bob amser wedi cael y cyfle i ystyried beth mae’r cyfrifoldeb hwnnw’n ei olygu mewn gwirionedd. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle hwnnw ac yn codi rhai cwestiynau anodd ond hanfodol.
Dyma 5 gwers allweddol a ddaeth i’r amlwg dro ar ôl tro:
1. Mae’r pwysau’n cynyddu
Mae’r Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch arfaethedig yn rhybudd i fyrddau. Mae cyfarwyddwyr yn cael eu dal yn fwyfwy atebol am sut mae sefydliadau’n paratoi ar gyfer digwyddiadau, yn ymateb iddynt ac yn adfer ar eu hôl.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i arweinwyr ystyried beth mae’r cyfrifoldeb hwnnw’n ei olygu mewn gwirionedd, ac i ofyn cwestiynau anodd ond hanfodol:
- Pwy sy’n gwneud y penderfyniad pan fydd systemau’n methu?
- Beth yw’r cynllun os byddwn yn colli mynediad at ddata hanfodol?
- Sut ydyn ni’n diogelu pobl, cwsmeriaid a gweithrediadau wrth gyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol?
Mae’r sesiwn yn cynnig nid yn unig ddealltwriaeth o’r cyd-destun cyfreithiol a rheoleiddiol, ond hefyd y persbectif strategol sydd ei angen i arwain, nid dim ond ymateb.
2. Mae dysgu drwy senarios yn herio rhagdybiaethau
Mae seiberddiogelwch yn aml yn dechrau gyda thechnoleg… waliau tân, diweddariadau diogelwch, meddalwedd gwrthfeirws, ond yn y pen draw, pobl sy’n gwneud penderfyniadau tyngedfennol dan bwysau.
Mae seiberwydnwch yn cael ei feithrin drwy brofiad ymarferol. Dyna pam mae cyfranogwyr yn gweithio drwy efelychiadau o sefyllfaoedd go iawn, gan archwilio’r penderfyniadau y mae’n rhaid i arweinwyr eu gwneud mewn argyfwng.
Yn ein hefelychiad meddalwedd wystlo, gwelsom ragdybiaethau’n cael eu herio a mannau dall yn dod i’r amlwg, nid o safbwynt technegol, ond o safbwynt arweinyddiaeth. Roedd yn ddadlennol. Heriwyd rhagdybiaethau. Daeth bylchau i’r amlwg. Disgrifiodd un o’r cyfranogwyr y profiad fel “defnyddiol… ond brawychus.” Dyna’n union yw’r pwynt. Mae ymarfer nawr yn golygu gallu ymateb yn fwy digynnwrf, yn fwy eglur ac yn gyflymach yn nes ymlaen.
3. Ni allwch allanoli arweinyddiaeth
Mewn argyfwng, nid atal yr ymosodiad yn unig sy’n bwysig. Mae hefyd yn ymwneud â chadw’r busnes i fynd, ennyn ymddiriedaeth rhanddeiliaid, a gwneud penderfyniadau y gallwch sefyll drostynt. Mae mesurau diogelu technegol yn bwysig. Ond pan fydd toriad seiber yn digwydd, y bwrdd, nid y tîm TG, sy’n atebol i reoleiddwyr, cwsmeriaid a’r wasg.
Yr hyn a ddaeth i’r amlwg yn glir yn ein trafodaethau oedd bod hyder arweinwyr yn deillio o ddiwylliant. Mae’r amddiffynfeydd gorau yn dechrau gydag ymwybyddiaeth ymhlith staff rheng flaen, arferion adrodd da a chadwyni gwneud penderfyniadau clir. Mae’r cwrs hwn yn helpu cyfranogwyr i symud o feddylfryd sy’n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth i un sy’n canolbwyntio ar seiberwydnwch strategol.
4. Nid yw llywodraethu yn ddewisol
Mae’r cwrs yn cyflwyno arweinwyr i’r Cod Ymarfer Llywodraethu Seiber, gan eu helpu i ddeall sut i gysoni strategaeth seiber â nodau ehangach y sefydliad a dyletswyddau cyfreithiol. Mae llywodraethu cadarn yn golygu bod cyfarwyddwyr yn gallu mynegi risg mewn termau busnes, cysoni penderfyniadau buddsoddi ag awydd y sefydliad i dderbyn risg, a rhoi sicrwydd i randdeiliaid; o gwsmeriaid a phartneriaid i reoleiddwyr, bod seiberwydnwch yn cael ei gymryd o ddifrif.
5. Mae cydweithio ar draws swyddogaethau yn meithrin seiberwydnwch strategol
Nid yw seiberwydnwch yn bodoli ar ei ben ei hun. Y sefydliadau sy’n elwa fwyaf o’r cwrs yw’r rhai sy’n dod ag arweinwyr o feysydd strategaeth, risg, TG, gweithrediadau a chydymffurfiaeth ynghyd. Mae’r cydweithio hwn ar draws swyddogaethau yn paratoi timau arwain i weithredu fel un pan fydd digwyddiadau seiber yn codi, yn hytrach na chael eu rhwystro gan weithio mewn seilos a diffyg eglurder.
Beth fydd arweinwyr yn ei gael o’r cwrs
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn teimlo’n fwy parod i:
- Arwain strategaeth seiber a phenderfyniadau buddsoddi yn glir
- Deall eu cyfrifoldebau ar lefel y bwrdd a’u hatebolrwydd i randdeiliaid
- Herio rhagdybiaethau a mesurau rheoli gwan yn hyderus
- Cyfathrebu’n glir ac yn hyderus â rheoleiddwyr, cwsmeriaid, yswirwyr a phartneriaid
- Gwreiddio diwylliant o seiberwydnwch drwy’r sefydliad cyfan
A allai eich sefydliad elwa ar yr hyfforddiant hwn?
Cynhelir ein cwrs Seiberwydnwch i Gyfarwyddwyr ac Uwch Arweinwyr nesaf ar 8 Medi yng Nghaerdydd.
Drwy ddysgu ymarferol sy’n seiliedig ar senarios, mae’r cwrs yn helpu cyfarwyddwyr ac uwch arweinwyr i gryfhau eu dealltwriaeth o risg seiber, cyfrifoldebau ar lefel y bwrdd a gwneud penderfyniadau dan bwysau.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Trefnwch gyfarfod gyda ni
Os hoffech drafod sut y gallai’r hyfforddiant hwn gefnogi eich tîm arwain, bydd ein tîm yn falch o’ch helpu i ddod o hyd i’r opsiwn gorau ar gyfer eich sefydliad.
Cyrsiau Hyfforddi Seiber
Mae ein cyrsiau’n amrywio o hanfodion hylendid seiber i sgiliau technegol uwch, ac mae pob un wedi’i gynllunio ar gyfer cymhwysiad yn y byd go iawn. Mae pob rhaglen yn cyfuno arbenigedd â dysgu ymarferol. Rydym yn gweithio gyda diwydiant i sicrhau bod pob ymarfer yn adlewyrchu heriau go iawn, fel bod eich tîm yn datblygu’r sgiliau, yr hyder a’r meddylfryd sydd eu hangen i ymateb yn effeithiol.
Archebwch eich dyddiad…
Neu darganfyddwch fwy…


