
Hwb i Allu ym maes Seiber
Rydym yn rhan o ecosystem fywiog a chysylltiedig lle mae cwmnïau seiber, busnesau newydd, ac ymchwilwyr yn uno. Hyrwyddo arloesedd, siapio sgiliau, a gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn lle delfrydol i adeiladu, buddsoddi, a thyfu ym maes seiber.
Cydweithredu yn y Diwydiant
Cwmnïau Enfawr Byd-eang
Mae cwmnïau enfawr byd-eang fel Airbus, CGI, a Thales yn cydnabod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel lleoliad gwych ar gyfer byd seiber, gan angori ei enw da fel canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer datrysiadau arloesol.
Busnesau newydd Deinamig
Mae busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu yng Nghymru yn dod â syniadau newydd i’r llwyfan seiber byd-eang, gan siapio dyfodol y diwydiant a denu buddsoddwyr a thalent newydd i’r rhanbarth.
Daearyddiaeth Strategol
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn agos iawn at bwerdai seiber y DU, o’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i weithrediadau seiber y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae cwmnïau yma’n cael mynediad unigryw at gydweithio, ymchwil, a chefnogaeth, gan roi hwb i wydnwch cenedlaethol.
Ecosystem Busnes
Cynllun Gweithredu Seiber y Llywodraeth
Mae Cynllun Gweithredu Seiber Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth genedlaethol: gwydnwch, talent, ac arloesedd. Mae’n cryfhau pobl, busnesau, a gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â chreu economi seiber ffyniannus ledled Cymru.
Cefnogi Uchelgeisiau o ran Twf
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwneud seiberddiogelwch yn biler craidd i alluogi twf economaidd diogel. Ynghyd â Llywodraeth Cymru, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cydariannu’r Hyb Arloesedd Seiber i feithrin talent ac angori mwy o gwmnïau seiber yng Nghymru.
Ecosystem Dechnoleg Ffyniannus
Gyda sîn dechnoleg sy’n ffynnu a chadwyn gyflenwi sy’n ehangu, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig man cynhyrchiol i fusnesau seiber. Mae seiberddiogelwch yma’n sbarduno twf ar draws Technoleg Ariannol, Gweithgynhyrchu, Technoleg Fawr, a Thrafnidiaeth, gan ddenu buddsoddiad a gweithwyr proffesiynol medrus fel ei gilydd.
Datblygu Doniau
Rhagoriaeth Academaidd
Mae prifysgolion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn arwain ym maes addysg ar seiberddiogelwch, gan gynhyrchu graddedigion sydd â’r sgiliau arbenigol y mae’r diwydiant yn gofyn amdanyn nhw. Drwy gyfuno arloesedd â hyfforddiant ymarferol, maen nhw’n meithrin llif cyson o dalent sy’n barod i fynd i’r afael â bygythiadau sy’n esblygu.
Ymchwil o’r Radd Flaenaf
Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil ar Seiberddiogelwch (ACE-CSR), ac mae gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru statws ACE-CSE. Mae eu hymchwil a’u hyfforddiant yn cryfhau gallu’r diwydiant yn uniongyrchol.
Uwchsgilio ar gyfer Gyrfaoedd ym maes Seiber
Y tu hwnt i’r byd academaidd, rydym yn darparu hyfforddiant ymarferol sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd ac sy’n meithrin hyder ac yn rhoi sgiliau y mae galw amdanyn nhw i bobl. Mae hyn yn sicrhau bod gan y rhanbarth weithlu i sicrhau twf a ffyniant.
Sbotolau ar y Clwstwr
Ecosystem Gydgysylltiedig
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn prysur ddod yn un o ecosystemau seiber cryfaf y DU, lle mae’r byd academaidd, llywodraeth, diwydiant, a busnesau newydd yn cydweithio i fynd i’r afael â heriau cyffredin. Mae’r Hyb Arloesedd Seiber yn dod â’r rhwydweithiau hyn at ei gilydd, gan greu’r amodau ar gyfer syniadau newydd, sgiliau cryfach, a buddsoddiad i ffynnu. Drwy ddod â phartneriaid gyda’r gorau yn y byd a diwylliant o gydweithio at ei gilydd, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn siapio ei hun fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer arloesi ym maes seiber; lle mae gwydnwch yn tyfu, cyfleoedd yn cynyddu, a manteision yn ymestyn ar draws diwydiannau a chymunedau.



