Eicon Chwilio
Bwyd symudol
Hafan Datrysiadau Ymarferion Digwyddiadau

Hyder pan fydd hynny’n bwysig

Ymwybyddiaeth ar draws timau

Methu’n ddiogel, dysgu’n gyflym

Datblygu diwylliant a gallu ym maes seiber

Senarios realistig

Canlyniadau y mae modd gweithredu arnyn nhw

Ar gyfer pwy mae hyn?

Dydy peilotiaid ddim yn aros am argyfwng hanner ffordd drwy daith awyren i ddysgu sut mae ymateb. Maen nhw’n hyfforddi mewn peiriannau efelychu. Dydy arweinwyr milwrol ddim yn profi strategaethau ar faes y gad, maen nhw’n cynnal gemau rhyfel. Mae seiberddiogelwch yn haeddu’r un ddisgyblaeth. Mae ein hyfforddiant ar ymateb i ddigwyddiadau ar gyfer timau technegol, arweinwyr parhad, ac uwch swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau sydd angen gweld risgiau, profi ymatebion, a chydlynu o dan bwysau. Drwy ymarfer mewn amgylchedd diogel, rydych chi’n meithrin ymwybyddiaeth, yn ogystal â hyder, gan wneud risg seiber yn weladwy o’r ystafell reoli i ystafell y bwrdd, a sicrhau bod eich sefydliad yn barod pan fydd yn bwysig.

Mae ein cwrs sylfaen hanner diwrnod yn codi ymwybyddiaeth ac yn cyflwyno hanfodion Parhad Busnes, Adfer ar ôl Trychineb TGCh, a chynllunio ar gyfer Ymateb i Ddigwyddiadau. Mae cyfranogwyr yn gweld sut mae polisïau damcaniaethol yn trosi’n gamau gweithredu ymarferol, gan greu llinell sylfaen a rennir ar draws timau. Mae’r rhaglen lefel mynediad hon yn ddelfrydol i sefydliadau sy’n cymryd y camau cyntaf mewn seiberwydnwch, neu’r rheini sydd angen hyfforddiant gloywi i ddiweddaru cynlluniau.

Mae’r rhaglen diwrnod llawn yn mynd gam ymhellach gyda gwydnwch, gan efelychu digwyddiadau seiber byw wedi’i deilwra i’ch sefydliad. Mae timau’n ymarfer ymateb o dan bwysau realistig, yn datgelu gwendidau, ac yn mireinio prosesau mewn amser real. Mae ôl-drafodaethau dan arweiniad yn sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn troi’n welliannau parhaol ar draws pobl, prosesau, a systemau. Mae arweinwyr yn cael tystiolaeth glir ar gyfer buddsoddi, ac mae timau’n magu hyder i weithredu’n gyflym ac yn effeithiol pan fydd hynny bwysicaf.

Ymateb Cryfach, Yn cael ei Greu Yma

Effaith ar Draws Swyddogaethau

Ymgysylltu ag arweinwyr a staff rheng flaen i sicrhau gwydnwch i bawb.

Newid Diwylliant

Datblygu ymwybyddiaeth ac atebolrwydd ar draws y sefydliad cyfan.

Hyder o dan Bwysau

Mae timau’n ymarfer ymateb cyn i ddigwyddiadau go iawn ddigwydd.

Senarios Realistig

O feddalwedd wystlo i dorri’r gadwyn gyflenwi, rydym yn modelu eich risgiau.

Canlyniadau y mae modd gweithredu arnyn nhw

Nodi bylchau, mireinio cynlluniau, a chryfhau gallu hirdymor.

Arbenigedd Sector

Senarios wedi’u siapio gan arbenigwyr sydd â phrofiad seiber go iawn.

“Fel Prif Swyddog Diogelwch National Highways, rwy’n ymwybodol o fygythiadau seibr sy’n esblygu. Buom yn cydweithio â’r Hyb Arloesedd Seiber, gan ddefnyddio cyfleusterau llwyfannau profi ac ymgolli i efelychu ymosodiadau mewn lleoliad dan reolaeth. Fe wnaeth y dull ymarferol hwn wella ein dealltwriaeth o reoli bygythiadau a meithrin cydweithio a dysgu ar draws ein sefydliad.”

Keith Price
Prif Swyddog Diogelwch, National Highways