Oes gennych chi syniad seiber yr hoffech chi ei roi’n fyw? Ymateb i un o’n heriau

Gosodwch her i ni…

A oes gennych chi broblem seiberddiogelwch yn eich sefydliad na allwch chi ddod o hyd i'r dechnoleg neu'r broses gywir i'w datrys?

Trwy ein rhaglen fenter a arweinir gan her, rydym yn mynd ati i chwilio am heriau masnachol sy’n wynebu busnesau fel eich un chi, fel y gallwn weithio gydag entrepreneuriaid seiber i ddatblygu a dangos atebion arloesol.

Ein nod yw dod o hyd i atebion sydd â photensial ar gyfer masnacheiddio trwy egin gwmnïau newydd. Os byddwn yn dod o hyd i lwybr masnachol hyfyw ar gyfer ateb, bydd ein timau yn ei adeiladu ac yn dod ag ef i'r farchnad, gan ganiatáu i chi gaffael yr ateb i ddatrys eich problem yn effeithlon.

Gosodwch her

Beth yw’r fantais ar gyfer fy musnes?

  • Byddwch yn cael cyfle i ddatrys heriau eich sefydliad heb fod angen buddsoddiad ymchwil a datblygu trwm a risg

  • Bydd ein timau yn adeiladu ac yn dod ag atebion i'r farchnad, gan ei gwneud yn haws i chi eu caffael a'u rhoi ar waith

  • Byddai datrysiadau posibl yn cael eu hasesu gan berson addas yn eich sefydliad i bennu hyfywedd y farchnad

  • Bydd gan ein crewyr datrysiadau fynediad at welyau prawf seiberddiogelwch ar gyfer dilysu ac arddangos cynnyrch

  • Mae gan ein timau fynediad at gronfa o arbenigwyr academaidd, ymchwilwyr, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ar flaen y gad o ran arloesi seiberddiogelwch

Yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi...

I osod her

Rydym yn chwilio am rai dangosyddion her allweddol wrth adolygu ceisiadau her.

Mae hyn yn cynnwys mynegiant clir o'r broblem, cyfiawnhad masnachol, ac arddangosiad nad yw ateb ar gael yn hawdd i chi.

  • Mynegwch yn glir y broblem yr ydych yn ei hwynebu.
  • Eglurwch sut mae'r broblem yn effeithio ar eich sefydliad, a phersona/rôl y bobl sy'n delio â'r broblem.
  • Disgrifiwch sut y byddai ateb ymarferol yn gwella sefyllfa eich sefydliad – “sut olwg sydd ar ateb da?"
  • Rhowch wybod i ni os ydych wedi ceisio datrys y broblem yn fewnol neu drwy gaffael datrysiadau presennol.
  • Rhannwch unrhyw wybodaeth am atebion presennol ar y farchnad yr ydych wedi'u nodi.
  • Cadarnhewch a fyddech yn ystyried caffael yr ateb i ddatrys eich problem - er nad yw'n ddisgwyliad

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at cyberinnovationhub@caerdydd.ac.uk

Cysylltwch

Cofrestrwch i'n cylchlythyr

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a’r technolegau seiberddiogelwch diweddaraf trwy ymuno â chylchlythyr y Cyber Innovation Hub heddiw.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i’n gwefan: polisi preifatrwydd We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.