Oes gennych chi syniad seiber yr hoffech chi ei roi’n fyw? Ymateb i un o’n heriau

Datrys problemau yfory, heddiw

Efallai bod gennych chi'r datrysiad seiberddiogelwch mawr nesaf ond nad oes gennych chi syniad ble i ddechrau ei fasnacheiddio - dyna lle mae ein rhaglen adeiladu menter yn dod i mewn. Ynghyd â diwydiant, rydyn ni'n gosod heriau y gallai eich syniadau eu datrys.

Beth ydych chi'n aros amdano?

Cyflwynwch eich syniad i her

Beth yw'r Rhaglen Adeiladu Menter?

Rydym yn dod â’r bobl syniadau ag arbenigedd maes seiber, ynghyd ag entrepreneuriaid â gwybodaeth fasnachol, i gydweithio, i fynd â syniad i fenter fasnachol lawn o fewn 12 mis.

Adeiladwch eich tîm

Efallai bod gennych chi syniad gwych, ond nid oes gennych yr arbenigedd i’w farchnata. Rydyn ni’n dod o hyd i’r talent gorau, ac yn adeiladu tîm o’ch cwmpas. Gan gynnwys arbenigedd masnachol, datblygu cynnyrch, neu sgiliau codio. Y ffordd honno, mae cydbwysedd cryf rhwng set sgiliau technoleg, seiber a masnachol i helpu i greu cwmni hyfyw a denu buddsoddiad.

Derbyn cyflog misol

Byddwch i gyd yn derbyn cyflog misol o £1500 a mynediad i ofod corfforol – gan ganiatáu i chi a’ch tîm ymgolli yn y daith entrepreneuraidd heb y cyfyngiadau ariannol. Gyda’ch gilydd byddwch yn mynd â sbarc cysyniad i fenter fasnachol gyflawn o fewn 12 mis, a fydd yn tyfu ac yn cynyddu ar draws y byd.

Datblygu eich cynnyrch

Mae ein gwelyau prawf o’r radd flaenaf sy’n cynrychioli dinasoedd clyfar, systemau gweithgynhyrchu, cerbydau cysylltiedig a rhwydweithiau TG rhithwir ar raddfa fawr yn cefnogi datblygu a dilysu cynnyrch. Trwy ein cysylltiadau ag Airbus, Thales a CGI, rydym yn eich helpu i brofi galw’r farchnad am eich datrysiad a mynd ati i’w farchnata.

Felly sut mae'n gweithio?

O bryd i'w gilydd, byddwn yn rhyddhau galwadau i bartïon â diddordeb ymateb i heriau. Rydym yn hysbysebu ein heriau ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol.

Mae croeso i bawb gyflwyno eu syniadau ar sut y gallent fynd i’r afael â’r her a gyflwynir. Gallech fod yn fyfyriwr, yn academydd, neu’n wir unrhyw un sydd â syniadau mawr a’r egni i’w droi’n fenter fasnachol.

Yn hollbwysig, rydym yn chwilio am ymatebion sy’n mynd i’r afael â’r her, sy’n newydd ac yn arloesol ac sydd â llwybr clir i’r farchnad.

Byddwch yn cael eich partneru â thîm a recriwtiwyd gan Sefydliad Alacrity a allai gynnwys pobl â sgiliau fel peirianneg meddalwedd, dylunio cynnyrch, arbenigedd masnachol, a datblygu busnes.

Bydd yr aelodau tîm eraill hyn yn dod yn gyd-sylfaenwyr i chi a, gyda’ch gilydd, byddwch yn gweithio i ffurfio busnes dros 12 mis y rhaglen. Byddwch i gyd yn derbyn cyflog misol o £1500 tra ar y rhaglen.

Fel buddsoddwr nid dim ond chwilio am syniadau mawr posibl yr ydym, rydym yn chwilio am syniadau sydd â photensial masnachol clir a sylweddol. Rydym yn ceisio tîm cytbwys ac nid yw hyn yn hawdd i’w gyflawni gydag arbenigedd maes yn unig.

Mae’r Hyb Arloesedd Seiber yn cyfuno arbenigedd parth mewn seiberddiogelwch â thîm masnachol sy’n rhannu ecwiti’n gyfartal fel cyd-sylfaenwyr, ac sy’n cael eu cefnogi gan raglen adeiladu menter sydd wedi’i phrofi ac sy’n gyffrous iawn i ni gan ei bod yn rhoi hwb i’r tebygolrwydd y byddwn yn gweld mwy o’r hyn yr ydym yn edrych i fuddsoddi ynddo.

Carl Griffiths Rheolwr Cronfa Banc Datblygu Cymru

Beth ydych chi'n ei gael gennym ni:

  • Her a arweinir gan y farchnad sy'n cynnig y cyfle i ddatblygu cynnyrch sy'n berthnasol yn y farchnad.

  • Cyflog o £1500 y mis i gynorthwyo gyda'ch costau byw tra byddwch ar y rhaglen.

  • Bod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol a fydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich syniadau yn fusnes hyfyw.

  • Rhaglen brofedig a fydd yn eich arwain trwy syniadaeth, datblygu a phrofi cynnyrch, marchnata a chynhyrchu refeniw.

  • Mynediad i'n cyfleusterau gwely prawf i helpu i brofi a dilysu eich syniadau ac i ofod ffisegol yn TramShed Tech.

  • Mynediad at arbenigedd ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, arbenigedd diwydiant trwy ein partneriaid a phrofiad magu Sefydliad Alacrity.

Beth sydd ei angen arnom gennych chi?

  • Ymateb i un o'n heriau! Os oes gennych chi syniad da a fydd yn mynd i’r afael ag un o’r problemau seiber yr ydym wedi’u nodi, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

  • Trwyddedu unrhyw eiddo deallusol (ED) cefndirol y byddwch yn dod gyda chi. Mae hyn er mwyn i chi ac aelodau eraill eich tîm ddefnyddio'r ED cefndir hwnnw i ddatblygu'ch syniad yn fusnes.

  • Bydd unrhyw eiddo deallusol a ddatblygir yn ystod y rhaglen yn cael ei gadw gan yr Hyb ar ran y tîm.

  • Mae'r rhaglen fagu yn para 12 mis a bydd disgwyl i chi weithio bob dydd yn rhanbarth Casnewydd/Caerdydd tra byddwch ar y rhaglen.

  • Os bydd yn llwyddiannus, ar ôl y rhaglen 12 mis, bydd yr ED yn cael ei ddychwelyd i'r cwmni newydd yn gyfnewid am gyfran ecwiti yn y cwmni i gydnabod y gefnogaeth a roddir gan yr Hyb.

  • Bydd gweddill yr ecwiti yn cael ei rannu rhwng sylfaenwyr y cwmni.

Fe wnes i herio fy hun i deithio pellter o 4000 milltir o India i’r Deyrnas Unedig y llynedd gyda’r gobaith o ehangu fy nealltwriaeth o fusnes. Y mis diwethaf, cefais y cyfle gwych hwn i fod yn rhan o’r rhaglen entrepreneuriaeth gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i gefnogi fy mreuddwyd o ddod yn arweinydd busnes ym maes seiberddiogelwch. Gan nad oes gennyf unrhyw wybodaeth flaenorol nac arbenigedd mewn busnes, mae’r rhaglen hon wedi fy ngalluogi i ddysgu mwy yn gyflym am nodi anghenion cwsmeriaid mewn marchnad seiberddiogelwch gystadleuol, a sut i leoli atebion newydd i greu cyfleoedd busnes.

Simran Sylfaenydd CIH

Dysgwch fwy am y Rhaglen Adeiladu Menter

Innovation

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch â ni drwy e-bostio cyberinnovationhub@caerdydd.ac.uk

Cysylltwch

Cofrestrwch i'n cylchlythyr

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a’r technolegau seiberddiogelwch diweddaraf trwy ymuno â chylchlythyr y Cyber Innovation Hub heddiw.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i’n gwefan: polisi preifatrwydd We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.