Oes gennych chi syniad seiber yr hoffech chi ei roi’n fyw? Ymateb i un o’n heriau

Ar gyfer Seiberwyr y Dyfodol

Mae’r diwydiant seiberddiogelwch mor amrywiol â’r problemau y mae’n ceisio’u datrys. P'un a ydych am gadw pobl yn ddiogel ar-lein, datblygu systemau trafnidiaeth glân, neu harneisio technolegau fel AI i esmwythau’n bywydau cymhleth, mae arloesedd seiberddiogelwch yn mynd i fod yn rhan greiddiol o'r datrysiad.

Mae gyrfaoedd mewn seiberddiogelwch yn amrywiol hefyd. Mae'r diwydiant yn mynd i fod angen pobl o bob cefndir, ac sydd ag amrywiaeth o sgiliau a diddordebau. Felly beth bynnag yw’ch diddordeb, mae'n debygol y bydd swydd mewn seiber i chi.

Dewch o hyd i'ch gyrfa seiber

Newydd i Seiber Ydy seiber i mi?

‘Dydw i ddim yn techy’, ‘Dydw i ddim yn gwybod sut i raglennu’, ‘Dydw i ddim yn berson mathemateg’, ‘Dydw i ddim yn gyfarwydd gyda crypto…’

Swnio’n gyfarwydd? Gadewch i ni ddatrys dryswch seiberddiogelwch i chi.

Mae seiberddiogelwch yn feddylfryd. Mae’n ymwneud â meddwl yn wahanol. Mae’n ymwneud â datrys problemau. Mae’n ymwneud â chadw’r goleuadau ymlaen, cadw busnes i lifo, ac aros yn ddiogel ar-lein.

Byddwn yn cynnig diwrnodau blasu seiber, lle bydd ein partneriaid yn y diwydiant yn esbonio ‘diwrnod ym mywyd’ ar gyfer gwahanol lwybrau gyrfa seiber. Dewch i wrando. Beth sydd gennych chi i’w golli?

Os ydych chi am gymryd y cam nesaf, byddwn yn cynnig cyrsiau hyfforddi fforddiadwy, byr, o gyflwyniadau i seiberddiogelwch i uwchsgilio ymarferol mewn gwahanol feysydd technoleg. Byddwn hyd yn oed yn ceisio eich helpu i gael cyfweliad ar ôl yr hyfforddiant.

Am Seiber
Bydd yr Hyb Arloesedd Seiber yn rhyddhau potensial Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan greu cyflenwad o’r radd flaenaf o gynhyrchion seiberddiogelwch newydd, busnesau twf uchel, a thalent â sgiliau technegol.

Amdanom ni Pam ni?

Trwy’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn cael eu cydnabod gan Lywodraeth y DU am ragoriaeth mewn ymchwil, arloesedd ac addysg seiberddiogelwch. Mae gennym hefyd bartneriaid diwydiant cryf – Airbus, CGI a Thales – yn ogystal â chysylltiadau cryf ag ysgolion a cholegau ar draws y rhanbarth.

Mae Sefydliad Alacrity wedi sefydlu rhaglenni entrepreneuriaeth ac adeiladu menter, tra bod Tramshed Tech yn fan cydweithio blaenllaw a chymuned gychwynnol yn y rhanbarth, gyda chwmnïau seiberddiogelwch ar safleoedd ac ymrwymiad i dyfu mentrau sy’n cael eu gyrru gan dechnoleg a seiber.

Gyda’n gilydd, gadewch i ni weithio i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn glwstwr seiberddiogelwch blaenllaw yn y DU.

Ein Cenhedaeth

Cofrestrwch i'n cylchlythyr

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a’r technolegau seiberddiogelwch diweddaraf trwy ymuno â chylchlythyr y Cyber Innovation Hub heddiw.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i’n gwefan: polisi preifatrwydd We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.