Mae’r Hyb Arloesedd Seiber wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda’r nod o drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o glystyrau seiberddiogelwch mwyaf blaenllaw’r DU erbyn 2030. Un o’n hamcanion yw creu mwy na 25 o gwmnïau twf uchel a, chan weithio’n agos gyda’n partneriaid diwydiannol, y rhaglen her hon yw ein ffordd allweddol o gyflawni’r amcan hwnnw. Ein nod yw gweithio gyda busnesau a’r sector cyhoeddus i annog heriau arloesi a arweinir gan y farchnad – ac yna datblygu datrysiadau newydd, arloesol yn gyflym. Yr amcan yw teilwra’r rhain yn ofalus i alwadau’r diwydiant fel eu bod yn ddeniadol i fuddsoddwyr ecwiti preifat.
Byddwn yn paru ymatebwyr her ag entrepreneuriaid yn rhaglen ddeori Sefydliad Alacrity, gan adeiladu tîm o amgylch yr ymatebwr her, a rhoi cymorth a gwasanaethau iddo i’w alluogi i dyfu’n gyflym. Bydd gan dimau fynediad i ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae gan yr ymchwilwyr hyn brofiad o gynhyrchu a dilysu datrysiadau seiberddiogelwch ar fyrddau profi o safon fyd-eang. Bydd gan dimau hefyd ofod cydweithio yn Tramshed Tech – ochr yn ochr â BBaChau seiber a digidol presennol. Y nod cyffredinol yw i’r timau hyn ddod yn fusnesau newydd ar ddiwedd y rhaglen 12 mis.
Rydym yn falch o lansio ein her gyntaf un. Rydym yn chwilio am arloeswyr sydd â datrysiadau posibl i’r heriau a nodir isod.
Rydym am nodi, datblygu ac arddangos datrysiadau arloesol yn y meysydd a amlinellir isod. Mae’r meysydd her wedi’u dewis i gyd-fynd yn fras â heriau a nodwyd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol fel deialog barhaus, yn awgrymu eu bod yn bwysig i’n partneriaid yn y diwydiant.. Byddem yn gofyn i chi feddwl am yr heriau a sut y gallech ddatrys problem benodol sy’n ymwneud â’r meysydd hyn. Mae’r meysydd her fel a ganlyn:
Rydym yn chwilio am syniadau i fynd i’r afael â’r meysydd her seiberddiogelwch a nodir uchod.
Rhestrir y pynciau isod:
Lansio galwad yr her | Dydd Gwener 3 Mawrth 2023 |
Digwyddiad briffio ar-lein | Dydd Iau 23 Mawrth 2023, 1400-1500 amser DU. |
Galwad yr her yn cau | Hanner dydd (BST) ar 24 Ebrill 2023 |
Hysbysu’r ymgeiswyr | 1 Mai 2023 |
Prosiectau yn dechrau | Mehefin 2023 |
Prosiectau yn dod i ben | Mehefin 2024 |
* Nodwch y gallai’r dyddiadau newid *
Defnyddiwch y ffurflen i ymateb i’r Alwad i Weithredu, y ceir dolen iddi isod. Mae gan ymatebwyr yr opsiwn o ymateb gan ddefnyddio’r ffurflen destun neu uwchlwytho fideo pum munud fideo sy’n amlinellu eu cynnig. Datblygwyd set o nodiadau cyfarwyddyd i helpu ymatebwyr, ac maent ar gael yma.
https://forms.office.com/e/sA2771EGey
Yn unrhyw un o’r prosiectau, mae angen syniadau arnom y gellir eu datblygu a’u profi’n gyflym gyda’r potensial i’w tyfu a’u defnyddio ledled y DU dros y misoedd nesaf.
Yn dilyn y dyddiad cau, bydd yr ymatebion yn cael eu hasesu gan banel o bartneriaid yr Hyb Arloesedd Seiber i bennu addasrwydd a hyfywedd posibl ar gyfer y farchnad. Os oes angen, gellir trefnu cyfweliadau ag ymatebwyr her.
Os yn llwyddiannus, bydd ymatebwyr her yn cael eu gwahodd i ymuno â rhaglen arloesi’r Hyb Arloesedd Seiber. Bydd y rhaglen hon, sy’n cael ei rhedeg gan Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd, yn eich partneru â thîm gyda’r nod o greu busnes hyfyw gyda datrysiad sy’n barod ar gyfer y farchnad. Mae’r rhaglen ddeori yn para 12 mis a bydd disgwyl i chi fod wedi’ch lleoli yn rhanbarth Caerdydd tra byddwch ar y rhaglen. I gynorthwyo gyda chostau, cynigir cyflog o £1,500 y mis. Bydd y rhaglen yn eich tywys drwy syniadaeth, datblygu a phrofi cynnyrch, marchnata a chynhyrchu refeniw.
Drwy gydol y rhaglen bydd gennych fynediad at arbenigedd ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, profiad deori Sefydliad Alacrity a’r ecosystem dechnoleg ehangach trwy TramShed Tech. Bydd timau’n gallu cael mynediad i ofod ffisegol yn TramShed Tech a Sefydliad Alacrity. Mae’r Hyb Arloesedd Seiber hefyd yn y broses o ddylunio a gweithredu byrddau profi seiberddiogelwch yn yr adeilad arloesol Sbarc|Spark. Drwy gydol y rhaglen byddwch hefyd yn cael cymorth gan ein partneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod hyfywedd ar gyfer y farchnad yn ystyriaeth flaenllaw wrth ddatblygu.
Cynhelir digwyddiad briffio ar-lein ddydd Iau 23 Mawrth am 1400-1500 amser DU. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad briffio, cysylltwch â cyberinnovationhub@caerdydd.ac.uk.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr her hon, anfonwch e-bost at: cyberinnovationhub@caerdydd.ac.uk
Lawrlwythwch PDF: Meini prawf gwerthuso