- Hylendid ac Ymwybyddiaeth Seiber
CHA100: Cyflwyniad i Hylendid ac Ymwybyddiaeth Seiber
Cyflwyniad byr, ymarferol i sgiliau hylendid seiber hanfodol ar gyfer gwaith bob dydd a diogelwch ar-lein.
- Hanfodion
- Ar-lein

Cipolwg o’r Cwrs
Datblygu eich hyder ym maes seiber
Mae seiberddiogelwch i bawb, nid dim ond ym maes TG. Mae’r sesiwn brofi hon yn cyflwyno’r arferion a’r ymwybyddiaeth allweddol sy’n eich cadw chi, eich data, a’ch sefydliad yn ddiogel. Mewn llai na dwy awr, byddwch yn dysgu sut mae adnabod bygythiadau cyffredin, osgoi camgymeriadau costus, a gwneud newidiadau bach sy’n cael effaith fawr. Gyda gweithgareddau rhyngweithiol ac enghreifftiau clir, fe gewch gamau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith ar unwaith, yn y gwaith ac yn eich bywyd personol.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Unrhyw un sy’n defnyddio cyfrifiadur, ffôn, neu gyfrifon ar-lein yn y gwaith neu gartref. Does dim angen cefndir technegol. Perffaith ar gyfer sesiynau cynefino staff, hyfforddiant gloywi, neu’r rhai sy’n newydd i seiberddiogelwch.
Modiwlau
- Cyflwyniad i’r byd digidol a seiberddiogelwch
- Arferion hylendid diogel
- Bygythiadau cyffredin ar-lein a sut mae eu hosgoi
- Cyfrineiriau cryf a chyfrifon diogel
- Arferion e-bost a phori diogel
- Sicrhau eich presenoldeb digidol
Hyfforddiant Ymarferol
Mae gweithgareddau rhyngweithiol byr yn eich helpu i adnabod risgiau ac ymarfer arferion diogel mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.



Sut byddwch chi’n dysgu?
Cyflwynir gan hyfforddwyr profiadol, gan gyfuno esboniadau clir, enghreifftiau go iawn, a sesiwn holi ac ateb.
Rhagofynion
Dim, dim ond chwilfrydedd a bod yn barod i ddysgu.
Dechrau arni…
Adborth gan gyn-fynychwyr
- Cyrsiau Hyfforddi
Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

- Cyrsiau Hyfforddi
“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

- Cyrsiau Hyfforddi
“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”

Cyrsiau cysylltiedig

Gadewch i ni feithrin seiberwydnwch gyda’n gilydd
O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.
