- Hylendid ac Ymwybyddiaeth Seiber
CHA101: Hanfodion Hylendid ac Ymwybyddiaeth Seiber
Meithrin ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch sylfaenol gyda chanllawiau clir bob dydd i ddiogelu eich hun a’ch sefydliad ar-lein.
- Hanfodion
- Ar-lein

Cipolwg o’r Cwrs
Meithrin ymwybyddiaeth o faes seiber o’r gwaelod i fyny
Mae’r cwrs undydd hwn yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder hanfodol i chi gadw’n ddiogel yn y byd digidol sydd ohoni. Byddwch yn dysgu sut mae eich gweithredoedd ar-lein yn gadael ôl troed, yn deall egwyddorion craidd seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth, ac yn archwilio strategaethau diogelu data syml. Gydag enghreifftiau ymarferol a senarios perthnasol, byddwch yn gwybod sut mae adnabod risgiau, diogelu eich gwybodaeth, a defnyddio hylendid seiber da mewn gwaith a bywyd bob dydd.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Mae’r cwrs yn berffaith os ydych chi’n newydd i fyd seiberddiogelwch neu os ydych chi am deimlo’n fwy hyderus yn llywio’r byd digidol sydd ohoni. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol o ddiogelu chi’ch hun a’ch sefydliad. Does dim angen cefndir technegol, dim ond chwilfrydedd a pharodrwydd i feithrin arferion seiber da sy’n aros.
Modiwlau
Mynd i’r afael â hanfodion seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth, pam eu bod yn bwysig, a’r egwyddorion allweddol sy’n sail iddynt.
- Cyflwyniad i Seiberddiogelwch
- Cyflwyniad i Ddiogelwch Gwybodaeth
- Diogelwch Gwybodaeth o’i gymharu â Seiberddiogelwch
- Termau Diogelwch Allweddol
- Twyllo Cymdeithasol: gwe-rwydo, llais-rwydo, SMS-rwydo, abwydo, cael mynediad diawdurdod wrth ddilyn person arall yn ddiarwybod iddo, cael mynediad diawdurdod gyda chydsyniad person arall neu drwy dwyll
- Astudiaeth Achos: Twyllo Cymdeithasol ar Waith
Deall beth yw eich ôl troed digidol, sut mae’n cael ei greu, a sut mae ei reoli.
- Deall eich ôl troed digidol
- Diogelwch Cyfrineiriau a defnyddio rheolwyr cyfrineiriau
- Dilysu Aml-ffactor
- Arferion gorau o ran cael system wrth gefn
Dysgu sut mae cyfreithiau diogelu data yn berthnasol i waith bob dydd a seiberddiogelwch.
- Deall GDPR a’r Ddeddf Diogelu Data
- Beth maen nhw’n ei olygu i seiberddiogelwch yn eich rôl
- Crynodeb
- Ymarfer rhyngweithiol “Llofruddiaeth Ddirgel”
Hyfforddiant Ymarferol
Mae ymarferion rhyngweithiol, enghreifftiau go iawn, a thasgau grŵp yn magu hyder. Ar y diwedd, byddwch chi’n gwybod beth i gadw llygad amdano a beth i’w wneud nesaf.



Sut byddwch chi’n dysgu?
Dan arweiniad hyfforddwyr arbenigol cyfeillgar, rydym yn cyfuno esboniadau syml, senarios grŵp diogel, ac awgrymiadau uniongyrchol y gallwch eu defnyddio ar unwaith.
Rhagofynion
Does dim angen profiad seiber blaenorol, dim ond parodrwydd i ddysgu.
Dechrau arni…

Adborth gan gyn-fynychwyr
- Cyrsiau Hyfforddi
Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

- Cyrsiau Hyfforddi
“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

- Cyrsiau Hyfforddi
“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”

Cyrsiau cysylltiedig

Gadewch i ni feithrin seiberwydnwch gyda’n gilydd
O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.
