- Diogelwch Cwmwl
CLS101: Hanfodion Diogelwch Cwmwl
Cael eich trwytho mewn hanfodion diogelwch yn y cwmwl, o fodelau a llywodraethu i fygythiadau, ymateb i ddigwyddiadau, a thueddiadau.
- Hanfodion
- Ar-lein

Cipolwg o’r Cwrs
Adeiladu Sylfaen Gadarn mewn Diogelwch Cwmwl
Mae’r cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i fyd cyfrifiadura cwmwl a diogelwch sy’n esblygu’n gyflym, gan roi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i chi gefnogi mentrau diogelwch cwmwl mewn unrhyw sefydliad. Byddwch yn edrych ar gysyniadau allweddol a modelau defnyddio, hanfodion diogelwch cwmwl, a rôl y Gynghrair Diogelwch Cwmwl (CSA) wrth lunio arferion gorau. Drwy astudiaethau achos go iawn ac arddangosfeydd ymarferol gan ddefnyddio Amazon Web Services (AWS), un o’r platfformau cwmwl sy’n cael ei ddefnyddio amlaf, byddwch yn cael profiad ymarferol o ddulliau rheoli diogelwch, cydymffurfio, ac ymateb i ddigwyddiadau, a bydd hyn yn eich paratoi i helpu sefydliadau sy’n mudo i’w hamgylchedd cwmwl neu’n gwneud y gorau ohono.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Delfrydol ar gyfer gweithwyr TG proffesiynol, rheolwyr, a defnyddwyr busnes sy’n newydd i gyfrifiadura yn y cwmwl. Os ydych chi’n rhan o dîm mudo, yn goruchwylio’r broses o fabwysiadu i’r cwmwl, neu’n dechrau ar eich taith diogelwch yn y cwmwl, y cwrs hwn yw eich sylfaen.
Modiwlau
Mynd i’r afael â’r cysyniadau craidd, modelau gwasanaeth, a dulliau defnyddio sy’n sail i amgylcheddau cwmwl modern.
- Beth yw Cyfrifiadura yn y Cwmwl?
- Modelau ar gyfer Gwasanaethau Cwmwl
- Modelau Defnyddio’r Cwmwl
Deall heriau diogelwch unigryw’r cwmwl, gan gynnwys y dirwedd bygythiadau, yr egwyddorion, a’r model rhannu cyfrifoldeb.
- Tirwedd Bygythiadau yn y Cwmwl
- Egwyddorion Diogelwch Cwmwl
- Model Rhannu Cyfrifoldeb
Dysgu am y corff byd-eang sy’n llunio arferion gorau ar gyfer diogelwch cwmwl a’i adnoddau allweddol.
- Cyflwyniad i’r Gynghrair Diogelwch Cwmwl (CSA)
Dadansoddi achos go iawn o dorri diogelwch cwmwl i nodi gwendidau a’r gwersi a ddysgwyd.
- Astudiaeth Achos – Dadansoddi achos o Dorri Diogelwch Cwmwl (Gweithgaredd Grŵp)
Edrych ar ddulliau rheoli diogelwch hanfodol sy’n helpu i ddiogelu data a systemau cwmwl.
- Dulliau Rheoli Diogelwch Craidd
Cyfle i fod yn ymarferol wrth reoli manylion adnabod a mynediad gan ddefnyddio adnoddau AWS.
- Rheoli Manylion Adnabod a Mynediad AWS (Arddangos Adnoddau)
Dysgu sut mae ffurfweddu a rheoli grwpiau diogelwch yn effeithiol yn AWS.
- Rheoli Grwpiau Diogelwch Amazon (Arddangos Adnoddau)
Deall sut mae fframweithiau cyfreithiol, contractau, ac archwiliadau yn effeithio ar lywodraethu diogelwch yn y cwmwl.
- Fframweithiau Cyfreithiol yn Rheoli Diogelu Data a Phreifatrwydd
- Contractau a Chynefino Darparwyr
- Archwilio ac Adrodd
Cynllunio a gweithredu strategaethau ymateb i ddigwyddiadau i sicrhau parhad mewn systemau yn y cwmwl.
- Sicrhau Parhad ac Adferiad gyda Darparwr Cwmwl
- Rheoli Toriadau yng Ngwasanaeth Darparwr Cwmwl
Edrych ar roi cwmwl ar waith yn ddiogel a llwyddiannus a’r camau y tu ôl i hyn.
- Astudiaeth Achos – Rhoi Cwmwl Diogel ar waith (Gweithgaredd Grŵp)
Canfod datblygiadau presennol ac yn y dyfodol ym maes diogelwch yn y cwmwl a’u goblygiadau i sefydliadau.
- Tueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn Diogelwch Cwmwl
Dysgu sut mae Cofrestr STAR yn helpu gyda thryloywder ac ymddiriedaeth mewn darparwyr diogelwch yn y cwmwl.
- Cyflwyniad i Gofrestr STAR CSA
- Edrych ar Gofrestr STAR CSA
Hyfforddiant Ymarferol
Profi offer a thechnegau go iawn gydag arddangosiadau dan arweiniad a dysgu rhyngweithiol mewn grŵp.



Sut byddwch chi’n dysgu?
Byddwch yn dysgu drwy gymysgedd o gyflwyniadau byr penodol, astudiaethau achos o’r byd go iawn, a gweithgareddau grŵp ymarferol. Bydd arddangosiadau ymarferol mewn amgylchedd cwmwl byw yn eich helpu i weld cysyniadau diogelwch ar waith, heb fod angen arbenigedd technegol blaenorol. Bydd trafodaethau rhyngweithiol ac ymarferion dan arweiniad yn sicrhau eich bod yn gallu defnyddio’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn unol ag anghenion diogelwch eich sefydliad eich hun yn y cwmwl.
Rhagofynion
Dim. Dyma’r man cychwyn perffaith i unrhyw un sydd eisiau deall neu gryfhau hanfodion diogelwch cwmwl.
Dechrau arni…
Adborth gan gyn-fynychwyr
- Cyrsiau Hyfforddi
Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

- Cyrsiau Hyfforddi
“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

- Cyrsiau Hyfforddi
“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”


Gadewch i ni feithrin seiberwydnwch gyda’n gilydd
O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.
