- Diogelwch Cwmwl
CLS201: Egwyddorion Diogelwch Cwmwl – Canolradd
Datblygu eich dealltwriaeth o ddiogelwch yn y cwmwl drwy edrych ar lywodraethu, rheoli risg, dulliau rheoli technegol, ac ymateb i ddigwyddiadau go iawn.
- Canolradd
- Wyneb yn wyneb

Cipolwg o’r Cwrs
Gwella eich arbenigedd diogelwch yn y cwmwl
Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn ar lefel ganolradd yn adeiladu ar hanfodion y cwmwl, gan ganolbwyntio ar lywodraethu, risg, a dulliau rheoli ymarferol mewn amgylcheddau cwmwl. Byddwch yn edrych ar sut mae cydymffurfedd, arferion gorau, a rheoli risg yn newid wrth weithio gyda modelau defnyddio cwmwl. Gyda labordai ymarferol a senarios go iawn, byddwch yn cael profiad o ddefnyddio adnoddau CSA, sicrhau seilwaith a data, a llywio prosesau ymateb i ddigwyddiadau ac archwilio. Drwy hyfforddi ar y cwrs hwn, byddwch yn barod i arwain ymdrechion diogelwch yn y cwmwl yn hyderus ac yn eglur ar draws unrhyw saernïaeth cwmwl.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Delfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes TG, diogelwch a gweithrediadau sy’n deall hanfodion y cwmwl ac sydd eisiau gallu gwneud mwy ym meysydd llywodraethu, rheolaeth dechnegol, ac ymateb i ddigwyddiadau.
Modiwlau
Diwrnod 1
Edrych ar saernïaeth cwmwl, cyfrifoldebau diogelwch, a modelau gwasanaeth.
- Cysyniadau Cyfrifiadura yn y Cwmwl, Saernïaeth a Modelau Rhesymegol
- Cyfrifoldebau a Modelau Diogelwch Cwmwl
Edrych eto ar brif gysyniadau a hanfodion y cwmwl drwy ymarferion rhyngweithiol.
- Crynhoi Cysyniadau Cyfrifiadura yn y Cwmwl (Gweithgaredd Mentimeter)
Deall rôl CSA, modelau prosesu, a mentrau diogelwch byd-eang.
- Beth yw’r Gynghrair Diogelwch Cwmwl (CSA)?
- Model Proses Diogelwch Cwmwl
- Adnoddau CSA (CCM a CAIQ) a Chofrestr Diogelwch, Ymddiriedaeth, Sicrwydd, a Risg (STAR)
Cyfle i fod yn ymarferol gydag adnoddau a chofrestrfeydd CSA mewn gweithgaredd dan arweiniad.
- Edrych ar Adnoddau CSA (Gweithgaredd Unigol Rhyngweithiol)
Dysgu fframweithiau llywodraethu, offer rheoli risg, ac ystyriaethau cyfreithiol ar gyfer y cwmwl.
- Rheoli Risg Llywodraethiant a Menter
- Adnoddau ar gyfer Llywodraethu Cwmwl
- Llywodraethu mewn Gwasanaethau Cwmwl a Gwahanol Fodelau Cyflwyno
- Adnoddau ar gyfer Llywodraethu Cwmwl
Defnyddio adnoddau AWS i adolygu a rheoli gosodiadau diogelwch yn y cwmwl.
- Edrych ar Lefel Rheoli AWS (Gweithgaredd Unigol)
Archwilio sut mae’r cwmwl yn newid gofynion cydymffurfio a phrosesau archwilio diogelwch.
- Sut mae’r Cwmwl yn Newid Cydymffurfedd?
- Sut mae’r Cwmwl yn Newid Archwilio Diogelwch?
Defnyddio Matrics Rheolyddion Cwmwl CSA mewn ymarferion archwilio a chydymffurfio ymarferol.
- Defnyddio CCM CSA ar gyfer Archwilio a Chydymffurfio (Gweithgaredd Rhyngweithiol)
Diwrnod 2
- AWS Security Hub
- AWS WAF Bot Control
- AWS Key Management Service
- Amazon Cognito
Hyfforddiant Ymarferol
Magu hyder drwy offer a labordai rhyngweithiol, gan gynnwys profiad ymarferol o fframweithiau CSA a ffurfweddiadau llwyfannau cwmwl.



Sut byddwch chi’n dysgu?
Byddwch yn dysgu drwy sesiynau dan arweiniad hyfforddwr sy’n cynnwys dadansoddi achosion go iawn, arddangosiadau cwmwl/SaaS, a labordai ymarferol
Rhagofynion
Cwblhau cwrs Hanfodion Diogelwch Cwmwl CLS101 neu wybodaeth sylfaenol gyfatebol mewn hanfodion cwmwl.
Dechrau arni…
Adborth gan gyn-fynychwyr
- Cyrsiau Hyfforddi
Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

- Cyrsiau Hyfforddi
“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

- Cyrsiau Hyfforddi
“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”


Gadewch i ni feithrin seiberwydnwch gyda’n gilydd
O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.
