- Risg a Llywodraethiant
CSD101: Hanfodion Seiberddiogelwch drwy Ddyluniad
Deall hanfodion sut mae modd gwreiddio seiberddiogelwch mewn systemau o’r gwaelod i fyny; yn strategol, yn dechnegol, ac yn weithredol.
- Hanfodion
- Ar-lein

Cipolwg o’r Cwrs
Dechrau gyda strategaeth, datblygu gyda hyder
Mae’r cwrs deuddydd hwn yn cyflwyno egwyddorion hanfodol Seiberddiogelwch drwy Ddyluniad. O’i rôl yng nghylch oes datblygu meddalwedd i’w bwysigrwydd o ran cyflawni nodau busnes ehangach. Byddwch yn edrych ar bynciau craidd seiberddiogelwch, fframweithiau llywodraethu, a gofynion polisi sy’n sail i gyflwr cryf o ran diogelwch. P’un ai ydych chi mewn rolau llywodraethu, datblygu neu risg, erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn deall sut mae gwreiddio diogelwch mewn systemau a phrosesau o’r cychwyn cyntaf, gan sicrhau bod eich sefydliad yn wydn, yn cydymffurfio, ac yn barod i ymateb i fygythiadau sy’n esblygu.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Mae’r cwrs hwn yn addas i arweinwyr busnes, rheolwyr prosiect, ac arweinwyr technoleg y mae angen iddyn nhw ddeall sut mae integreiddio seiberddiogelwch i systemau, strategaethau, a llywodraethu o’r cychwyn cyntaf.
Modiwlau
Dysgu sut mae datblygu strategaeth seiberddiogelwch gadarn, integreiddio fframweithiau llywodraethu, a chyd-fynd â gofynion cyfreithiol a chydymffurfio.
- Datblygu Strategaeth Seiber
- Deddfwriaeth a Rheoliadau Seiber
- System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth
Deall dulliau rheoli diogelwch craidd, rheoli trydydd parti, a phrosesau rheoli risg i ddiogelu systemau allweddol a chynnal gwydnwch.
- Archwilio a Chydymffurfio o ran Diogelwch
- Ffactorau Dynol
- Dulliau Rheoli Diogelwch Technegol
Hyfforddiant Ymarferol
Byddwch yn gweithio drwy senarios go iawn sy’n gofyn am ddylunio strategaethau, defnyddio dulliau rheoli, a rheoli risg, i gyd yn seiliedig ar senarios y gallai eich sefydliad eu hwynebu.



Sut byddwch chi’n dysgu?
Dan arweiniad hwyluswyr arbenigol mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, mae’r cwrs hwn yn cyfuno cyfarwyddyd â gweithdai strategol a thechnegol, gan gynnwys segmentau o ddarlithoedd byr, trafodaeth grŵp, a chynllunio ar sail achosion.
Rhagofynion
Does dim angen profiad seiber blaenorol, dim ond parodrwydd i feddwl yn strategol am seiberddiogelwch.
Dechrau arni…
Adborth gan gyn-fynychwyr
- Cyrsiau Hyfforddi
Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

- Cyrsiau Hyfforddi
“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

- Cyrsiau Hyfforddi
“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”


Gadewch i ni feithrin seiberwydnwch gyda’n gilydd
O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.
