- Seibrwydnwch i Arweinwyr
CSD102: Seibrwydnwch i Reolwyr TG
Cwrs undydd wyneb yn wyneb i arweinwyr TG gysoni strategaeth seiber â nodau busnes, diogelu asedau, a meithrin gwydnwch gweithredol.
- Hanfodion
- Ar-lein

Cipolwg o’r Cwrs
Arwain gyda hyder mewn seiberwydnwch
Yn y dirwedd o fygythiadau y dyddiau hyn, mae arweinwyr TG yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o siapio gwydnwch sefydliadau. Mae’r cwrs undydd hwn yn pontio strategaethau a gweithrediadau, yn eich galluogi i ddiogelu asedau hanfodol, sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol, ac arwain ymateb effeithiol i ddigwyddiadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn ac ymarferion, byddwch yn dysgu sut mae rheoli risgiau seiber yn rhagweithiol, ysgogi diwylliant o ddiogelwch, a chadw eich sefydliad i fynd pan fydd hynny bwysicaf.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Wedi’i gynllunio ar gyfer rheolwyr TG ac arweinwyr technegol sy’n ceisio cryfhau seiberwydnwch eu sefydliad, cysoni diogelwch â blaenoriaethau busnes, a rheoli risgiau’n effeithiol.
Modiwlau
- Sbarduno strategaethau, buddsoddiadau, a diwylliant ym maes seiberddiogelwch – Creu a chynnal dull gweithredu sy’n rhoi diogelwch yn gyntaf.
- Diogelu asedau a rhaglenni allweddol – Diogelu systemau, rhaglenni, a data.
- Gwnewch yn siŵr mai dim ond y bobl iawn sy’n gallu cael mynediad at eich seiberofod – Rhowch ddulliau rheoli effeithiol ar waith ar gyfer adnabod pwy yw pobl a rhoi mynediad.
- Data yw’r olew newydd – sicrhau diogelwch data – Diogelu gwybodaeth sensitif ar draws pob system.
- Sicrhewch gydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol – Byddwch ar flaen y gad o ran gofynion ac osgoi achosion costus o dorri diogelwch.
- Datblygu ymwybyddiaeth o ddiogelwch – Ymgysylltu timau yn yr arferion gorau.
- Cyfyngu’r difrod a chyflymu’r gwaith o adfer y sefyllfa weithredol arferol – Datblygu cynlluniau adfer ac ymateb cadarn.
Hyfforddiant Ymarferol
Ymarferion sy’n seiliedig ar senarios i gymhwyso sgiliau strategol a gweithredol mewn sefyllfaoedd o fygythiadau sydd wedi’u hefelychu.



Sut byddwch chi’n dysgu?
Sesiynau dan arweiniad hyfforddwr, astudiaethau achos, a gweithgareddau grŵp rhyngweithiol.
Rhagofynion
Does dim rhagofynion ffurfiol, ond byddai’n fuddiol bod yn gyfarwydd â systemau a gweithrediadau TG.
Dechrau arni…

Adborth gan gyn-fynychwyr
- Cyrsiau Hyfforddi
Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

- Cyrsiau Hyfforddi
“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

- Cyrsiau Hyfforddi
“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”


Gadewch i ni feithrin seiberwydnwch gyda’n gilydd
O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.
