- Technoleg Weithredol
OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol
Cyflwyniad cyflawn i dechnoleg weithredol a’i heriau seiberddiogelwch.
- Hanfodion
- Ar-lein

Cipolwg o’r Cwrs
Adeiladu sylfaen gadarn mewn seiberddiogelwch Technoleg Weithredol
Mae’r cwrs deuddydd hwn yn eich cyflwyno i hanfodion technoleg weithredol a’r heriau seiberddiogelwch unigryw a ddaw yn ei sgil. Byddwch yn edrych ar gydrannau technoleg weithredol, amgylcheddau ICS, a’u pwysigrwydd mewn seilwaith cenedlaethol allweddol. Gan adeiladu ar y sylfaen hon, byddwch yn archwilio’r bygythiadau, y gwendidau, a’r technegau ymosod sy’n effeithio ar systemau Technoleg Weithredol, yn ogystal â’r safonau, y fframweithiau, a’r dulliau arferion gorau a ddefnyddir i’w diogelu.
Gallwch gymryd OT102 fel rhaglen ddeuddydd gyflawn neu ddewis un o’i fodiwlau unigol OT100: Cyflwyniad i Dechnoleg Weithredol ac OT101: Hanfodion Seiberddiogelwch ar gyfer Technoleg Weithredol i gyd-fynd â’ch anghenion. Ar gyfer timau sy’n awyddus i gael ymarfer manylach sy’n seiliedig ar senarios, mae ein cwrs OT103: Sylfeini Cymwysedig yn ychwanegu trydydd diwrnod o labordai pwrpasol wedi’u cynllunio o amgylch eich amgylchedd busnes a’ch nodau penodol.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy’n newydd i dechnoleg weithredol neu sy’n ceisio ehangu eu dealltwriaeth o ddiogelwch technoleg weithredol. Addas ar gyfer gweithwyr TG proffesiynol, peirianwyr, ac unrhyw un sy’n gweithio mewn seilwaith allweddol neu gyda’r seilwaith hwnnw.
Modiwlau
Deall sut mae sectorau seilwaith allweddol yn dibynnu ar Dechnoleg Weithredol (TW), sut mae systemau’n rhyng-gysylltiedig, a beth sy’n digwydd pan fo methiannau’n lledaenu ar draws systemau.
- Beth yw Seilwaith Cenedlaethol Allweddol (SCA)? (Diffiniadau gan NCSC a NPSA)
- Gwahanol sectorau SCA, eu cyd-ddibyniaethau, a’r effeithiau cadwynol sy’n deillio o darfu.
Deall y dyfeisiau a’r llif gwaith sy’n cadw systemau TW i redeg, a pham eu bod yn hanfodol.
- Diffiniadau ICS/TW, eu defnydd a’u seiberddiogelwch
- Mathau o gyfleusterau (Safle, Trosglwyddo, Cynhyrchu, Dosbarthu)
- Ymosodiadau ar ICS (Gorsaf Trin Dŵr Oldsmar, Colonial Pipeline, SPower, Stuxnet)
- Termau ICS/TW gwahanol (SCADA, DCS, PCS, EMS, AS, SIS)
- Cydrannau seilwaith TW (Dyfeisiau Maes, Rheolyddion Maes, HMI, Gorsafoedd Gwaith Peirianneg, Gweinyddion, Systemau Diogelwch)
- TG vs TW (Blaenoriaethau, Diogelwch, Cyfathrebu, Gweithrediadau, Cefnogaeth)
- Llif ICS (Proses, Cyfathrebu, Data)
- Protocolau TW cyffredin (Modbus, DNP3, ICCP, Fieldbus, Profibus, Profinet, OPC)
- Gweithgynhyrchu (Arwahanol a Phroses)
- Deall y Rheolyddion (Hanfodion a rhaglennu PLCs)
Archwilio’r prif gysyniadau diogelwch sy’n berthnasol i amgylcheddau TW, gan gynnwys risgiau, bregusrwydd, bygythiadau a chanlyniadau.
- Risk
- Elfennau Risg (Hafaliad Risg)
- Risg Uwch (Ffactorau Diwylliannol a Thechnegol)
- Threat
- Human threat attributes (capability, intent and opportunity)
- Categorïau Actorion Bygythiad (Prif ffrwd, Trefnedig, Terfysgol / Gwladwriaeth Genedlaethol)
- Bygythiadau Mewnol (Anfwriadol a Bwriadol)
- Vulnerability
- Adnabod Elfennau Bregus (Targedau Ymosod ICS, Prif Fregusrwydd, Bregusrwydd Eraill)
- Ffactorau sy’n cyfrannu at fregusrwydd ICS
- Achosion sylfaenol bregusrwydd seiber ICS
- Consequences
- Senarios gwaethaf posibl
- Effeithiau ar y busnes
- Digwyddiadau sy’n arwain at darfu
- Asesu, Gwerthuso, Rhaglen ICS
- Egwyddorion Seiberddiogelwch OT (Chwe Egwyddor)
- Safonau Seiberddiogelwch (NIST 800-82 R3, eCAF, OG86, IEC 62443) a Fframweithiau (NIST CSF 2.0)
Hyfforddiant Ymarferol
Cymryd rhan mewn ymarferion, trafodaethau rhyngweithiol, ac astudiaethau achos i gymhwyso cysyniadau mewn senarios diogelwch Technoleg Weithredol realistig.



Sut byddwch chi’n dysgu?
Opsiynau hyfforddi hyblyg
Mae modd cwblhau cwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol fel rhaglen ddeuddydd lawn neu gellir cymryd modiwlau penodol, llai i gyd-fynd â’ch anghenion dysgu:
OT100: Cyflwyniad i Dechnoleg Weithredol a Seilwaith Cenedlaethol Allweddol
Mae’r modiwl hwn yn berffaith i ddechreuwyr ac yn ymdrin â hanfodion Technoleg Weithredol, gan gynnwys ei rôl, ei gydrannau, a’i gymwysiadau mewn seilwaith allweddol.
OT101: Cyflwyniad i Risgiau a Safonau Technoleg Weithredol
Gan ganolbwyntio ar egwyddorion craidd seiberddiogelwch mewn Technoleg Weithredol, mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar OT100 ond mae modd gwneud y cwrs yn annibynnol hefyd os oes gennych eisoes wybodaeth ymarferol am Dechnoleg Weithredol.
Gallwch ddewis gwneud cwrs OT100 neu OT101 yn unigol, neu eu cyfuno ar gyfer y profiad dysgu deuddydd cyfan yng nghwrs OT102.
Labordai Hyfforddi ar gyfer Dysgu Cymwysedig
Chwilio am brofiad a hyfforddiant ymarferol? Dylech ystyried cwrs OT103: Sylfeini Cymwysedig, sy’n ychwanegu trydydd diwrnod o labordai sydd wedi’u seilio ar senarios ac wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer amgylcheddau a sefydliadau Technoleg Weithredol.
Rhagofynion
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o Dechnoleg Weithredol, er y byddai rhywfaint o wybodaeth am seiberddiogelwch yn fuddiol.
Archebwch eich dyddiad…
Neu darganfyddwch fwy…

Adborth gan gyn-fynychwyr
- Cyrsiau Hyfforddi
Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

- Cyrsiau Hyfforddi
“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

- Cyrsiau Hyfforddi
“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”

Cyrsiau cysylltiedig

Gadewch i ni feithrin seiberwydnwch gyda’n gilydd
O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.
