Eicon Chwilio
Bwyd symudol
Hafan Training Courses OT103: Sylfeini Cymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol
  • Technoleg Weithredol

OT103: Sylfeini Cymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol

Defnyddio egwyddorion diogelwch Technoleg Weithredol mewn amgylchedd dysgu pwrpasol sy’n canolbwyntio ar fusnes.

  • Hanfodion
3 Diwrnod
  • Wyneb yn wyneb
Cipolwg o’r Cwrs
  • Dysgu am fygythiadau o ran Technoleg Weithredol, dulliau ymosod, a sut mae lliniaru risgiau yn eich cyd-destun.
  • Ennill dealltwriaeth gymwysedig o haenu diogelwch, cuddwybodaeth am fygythiadau, a chynllunio ymatebion.
  • Ymestyn eich hyfforddiant gyda thrydydd diwrnod o labordai sy’n seiliedig ar senarios Technoleg Weithredol i brofi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o amgylchedd Technoleg Weithredol.

Mae’r cwrs tri diwrnod hwn yn teilwra hyfforddiant diogelwch Technoleg Weithredol i’ch busnes. Mae’r ddau ddiwrnod cyntaf yn adlewyrchu hanfodion OT102, gan ymdrin â bygythiadau, risgiau, safonau ac arferion gorau sy’n ymwneud â Thechnoleg Weithredol. Ar y trydydd diwrnod, byddwch yn gweithio gyda’n hyfforddwyr a’n peirianwyr seiber i brofi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o amgylchedd Technoleg Weithredol wrth i chi ymgysylltu â’n labordai sy’n seiliedig ar senarios Technoleg Weithredol. Dysgu technegau cymwysedig fel modelu bygythiadau gweithredol, dulliau ymosod ICS, haenau diogelwch, a chynllunio ymateb i ddigwyddiadau, i gyd o fewn y cyd-destun Technoleg Weithredol.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rheini sy’n newydd i amgylcheddau Technoleg Weithredol ac sydd angen profiad ymarferol o ddefnyddio egwyddorion diogelwch, wedi’u teilwra i’r systemau a’r risgiau go iawn maen nhw’n eu rheoli.

Gweithio gyda’n hyfforddwyr a’n peirianwyr seiber i brofi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o amgylchedd Technoleg Weithredol wrth i chi ymgysylltu â’n labordai sy’n seiliedig ar senarios Technoleg Weithredol.

Dysgu technegau cymwysedig fel modelu bygythiadau gweithredol, dulliau ymosod ICS, haenau diogelwch, a chynllunio ymateb i ddigwyddiadau, i gyd o fewn y cyd-destun Technoleg Weithredol.

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o Dechnoleg Weithredol, er y byddai rhywfaint o wybodaeth am seiberddiogelwch yn fuddiol.

Dechrau arni…


  • Cyrsiau Hyfforddi

Roedd gweithio gyda’r Hyb Arloesedd Seiber i ddarparu ein Diwrnod Efelychu Seiberfygythiadau a Pharhad Busnes yn wych. Gyda’r Hyb yn hwyluso, cafodd y tîm eu hannog i ymgysylltu gan greu lle diogel ar gyfer myfyrio a dysgu gonest. Roedd y senarios yn profi ein ffordd o feddwl ac yn amlygu meysydd i’w gwella, ac fe arweiniodd hyn at ganlyniadau gweladwy o ran mireinio ein cynlluniau parhad a chryfhau ein gwydnwch cyffredinol. Argymhellir hyn yn gryf ar gyfer unrhyw sefydliadau sy’n awyddus i brofi a/neu wella eu hymatebion ar Seiberddiogelwch.

Adrian Burke
Prif Weithredwr, Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf
  • Cyrsiau Hyfforddi

“Fe wnaeth cymryd rhan yng nghwrs OT102: Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol, a ddarparwyd gan yr Hyb Arloesedd Seiber, gryfhau ein dealltwriaeth o risgiau ac arferion Technoleg Weithredol. Roedd y rhaglen yn berthnasol ac wedi’i chyflwyno’n arbennig, gan roi’r wybodaeth i staff ddiogelu seilwaith. Rydym yn argymell y cwrs hwn i sefydliadau sy’n awyddus i fod yn wydn.”

Dŵr Cymru/Welsh Water
  • Cyrsiau Hyfforddi

“Roedd Sylfeini Gymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol yr Hyb Arloesedd Seiber yn becyn a ddatblygodd ein dealltwriaeth o ofynion Technoleg Weithredol a rheoli diogelwch. Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda, rhoddodd brofiad ymarferol i ni gan atgyfnerthu’r dysgu. Rwy’n edrych ymlaen at becynnau yn y dyfodol i adeiladu ar y sylfaen hon.”

Tom O’Driscoll
Pennaeth Gweithrediadau Diogelwch a Chuddwybodaeth, National Highways

Cyrsiau cysylltiedig

O hyfforddi i brofi i arloesi, os ydych chi’n adeiladu rhywbeth y mae’n rhaid iddo aros yn ddiogel, rydym yn barod i’ch helpu i efelychu, dysgu, a diogelu’r hyn sy’n bwysig.

Siaradwch â ni