Labordai Seiber Byd Go Iawn
Mae ein hamgylcheddau prawf seiber yn efelychu ymosodiadau byw yn ddiogel er mwyn datgelu gwendidau, profi ymatebion a chodi ymwybyddiaeth. Mae timau’n cael profiad ymarferol sy’n cryfhau gallu ar draws pobl, prosesau a thechnoleg, gan adeiladu gwydnwch seiber.
Efelychiadau ymarferol o ymosod ac amddiffyn
Parodrwydd timau ac arweinyddiaeth
Tystiolaeth y gallwch weithredu arni

Cyfleusterau o’r radd flaenaf
Archwiliwch lwyfannau profi arloesol fel model gefeilliaid digidol, systemau gweithgynhyrchu, a llwyfannau cerbydau sy’n cefnogi hyfforddiant, arloesedd, a datblygu mentrau ar draws diwydiannau.
Ein Cryfderau Unigryw
Mae ein llwyfannau profi yn cyfuno systemau ICS/SCADA â thactegau unigolion/grwpiau sy’n camweithredu’n dechnolegol i efelychu ymosodiadau, datgelu achosion o darfu, ac arddangos strategaethau amddiffyn er mwyn meithrin gwydnwch mewn amgylcheddau go iawn.
Datrysiadau wedi’u Teilwra
Rhedeg systemau efelychu cydamserol mewn amgylcheddau pwrpasol, o fusnesau bach a chanolig i fusnesau byd-eang. Cael mynediad o bell, cydweithio mewn amser real, a meithrin gwydnwch gyda phrofion seiber ymarferol gyda chymorth arbenigwyr
Beth sy’n ein rhoi ni ben ac ysgwydd uwchlaw’r gweddill?
Integreiddio Systemau a Thactegau Go Iawn
- Mae’n cyfuno systemau rheoli diwydiannol (ICS/SCADA) â thactegau unigolion/grwpiau sy’n camweithredu’n dechnolegol ar gyfer hyfforddiant ymgolli realistig
- Cefnogi systemau efelychu tîm coch (ymosod) a glas (amddiffyn) i ddadansoddi bygythiadau a chryfhau ymatebion
- Defnyddio efelychwr Ymosodiadau Seiber a Gwydnwch (CARS) i ddangos effeithiau’r byd go iawn ac amddiffynfeydd effeithiol

Wedi’i adeiladu i fod yn Wydn, Wedi’i gynllunio ar eich cyfer Chi
- Mae’n dadansoddi gallu, technegau ac olion ymosodwyr mewn prosesau gosod rhwydwaith wedi’i deilwra
- Meithrin sgiliau amddiffyn drwy brosesau canfod ac ymateb newydd
- Dilysu gwendidau mewn caledwedd a ffurfweddiadau ICS

O’r Labordy i Fod yn Barod at Ddefnydd Byw
- Defnyddiwch lwyfannau profi realistig i werthuso ymchwil a chreu prototeip o ddatrysiadau.
- Hyfforddi staff rheng-flaen mewn arferion diogelwch Technoleg Weithredol, hylendid seiber, ac ymateb i ddigwyddiadau
- Edrych ar wendidau a phrofi strategaethau lliniaru yn ddiogel
- Rhowch y gwersi a ddysgwyd mewn Ymchwil a Datblygu dros dymor hir a chynlluniau trawsnewid digidol

Y tu mewn i’r llwyfannau profi
Mae ein llwyfannau profi seiber yn cyfuno amgylcheddau TW cludadwy, systemau rheoli diwydiannol, rhwydweithiau TG ac TW wedi’u rhithwiroli, a llwyfannau ymarfer trochi sydd wedi’u cynllunio i helpu sefydliadau i hyfforddi, profi a chryfhau gwydnwch mewn senarios gweithredol realistig.
Amgylcheddau Ffisegol
CyberFirst Box

Llwyfan Ymarfer Seiber Cludadwy
Ymarferion seiber ymarferol a throchi sydd wedi’u cynllunio i gyflwyno senarios diogelwch realistig, datrys problemau ar y cyd ac ymateb i ddigwyddiadau mewn amgylchedd diogel.
- Ymwybyddiaeth seiber
- Addysg
- Ymarferion tîm
- Dysgu i ddechreuwyr
Llwyfannau dechreuwyr Arduino Opta a Siemens Logo, systemau Raspberry Pi, switshys heb eu rheoli, caledwedd rheoli peiriannau a chydrannau dysgu rhyngweithiol.
Cyflwyno profiadau ystafell ddianc seiber, ymarferion ymwybyddiaeth a hyfforddiant seiber sylfaenol sy’n cwmpasu cyfrineiriau, peirianneg gymdeithasol, ymosodiadau arddull malware, camfanteisio ar Wi-Fi ac ymateb i ddigwyddiadau.
Fieldsite Box

Llwyfan Hyfforddi Diogelwch TW Cludadwy
Amgylchedd rheoli diwydiannol realistig sy’n cefnogi hyfforddiant diogelwch TW, segmentu, monitro ac ymateb i ddigwyddiadau gan ddefnyddio cydrannau technoleg weithredol go iawn.
- Diogelwch TW
- Seilwaith critigol
- Gwydnwch diwydiannol
- Ymateb i ddigwyddiadau
PLCs diwydiannol, switshys wedi’u rheoli, HMIs, muriau gwarchod, gweithfannau peirianneg, pyrth ac amgylcheddau monitro a ddefnyddir mewn systemau technoleg weithredol.
Hyfforddi timau mewn darganfod asedau, segmentu rhwydweithiau, caledu dyfeisiau, monitro, ymateb i ddigwyddiadau TW ac ymarferion tîm coch yn erbyn tîm glas mewn amgylcheddau diwydiannol realistig.
LJCreate I

Llwyfan Hyfforddi PLC a Rheoli Diwydiannol
Amgylchedd TG ac TW wedi’i rithwiroli sydd wedi’i gynllunio ar gyfer efelychu ymosodiadau realistig, ymarferion SOC, profi gwydnwch a gweithrediadau tîm coch yn erbyn tîm glas wedi’u cydgysylltu.
- Hyfforddiant PLC
- Awtomeiddio diwydiannol
- Rhaglennu diogel
- Hanfodion TW
Rheolwyr PLC, systemau cludo, silindrau niwmatig, synwyryddion, falfiau electro-niwmatig, dangosyddion statws a mewnbynnau rheoli â llaw.
Cefnogi dysgu ymarferol ynghylch awtomeiddio diwydiannol, rhesymeg ysgol, datrys problemau, ymddygiad prosesau ac arferion rhaglennu diwydiannol diogel.
LJCreate II

Llwyfan Hyfforddi Rheoli Diwydiannol a SCADA
Amgylchedd rheoli diwydiannol a SCADA uwch sy’n cefnogi rheolaeth oruchwyliol, rhyngweithio HMI ac ymarferion systemau diwydiannol wedi’u cydgysylltu.
- Hyfforddiant SCADA
- Diogelwch HMI
- Monitro prosesau
- Gweithrediadau diwydiannol
PLCau lluosog, systemau cludo, rheolaethau niwmatig, HMIs, synwyryddion a chydrannau prosesau diwydiannol awtomataidd.
Hyfforddwch gyfranogwyr mewn rheolaeth oruchwylio, delweddu prosesau, diagnosio diffygion, rhyngweithio â HMI, a senarios ymateb diwydiannol cydgysylltiedig.
Sensor Box

Pecyn Hyfforddi Synwyryddion Diwydiannol Lefel 0/1
Amgylchedd arbenigol ar gyfer archwilio synwyryddion diwydiannol, signalau a rhesymeg reoli ar draws amgylcheddau technoleg weithredol Lefel 0/1.
- Synwyryddion diwydiannol
- Lefel 0/1 Purdue
- Rhesymeg ganfod
- Ymwybyddiaeth TW
PLCau diwydiannol, HMIs, tyrau signalau, synwyryddion tymheredd, synwyryddion agosrwydd a modiwlau I/O o bell.
Archwiliwch ddyfeisiau maes, uniondeb signalau, ymddygiad synwyryddion a rhesymeg canfod diwydiannol, gan ddeall sut y gellir trin a diogelu signalau diwydiannol.
Grid Trydanol

Llwyfan Ymarfer Seiber Cludadwy ar gyfer Systemau Pŵer
Amgylchedd seilwaith critigol sy’n cael ei ddatblygu ac sydd wedi’i gynllunio ar gyfer ymarferion seiber realistig ar draws systemau trawsyrru a dosbarthu pŵer.
- Cyfleustodau
- Systemau pŵer
- Seilwaith critigol
- Gwydnwch gweithredol
Releiau amddiffyn, unedau cyfuno, rheolwyr awtomeiddio, switshys bws proses, systemau telemetreg a seilwaith cyfathrebu is-orsafoedd.
Efelychu ymosodiadau a gweithrediadau amddiffynnol ar draws amgylcheddau systemau pŵer, gan gefnogi ymchwiliadau SOC, ymateb i ddigwyddiadau ac ymarferion gwydnwch gweithredol.
Ystod Seiber Coch a Glas

Ystod Seiber Gludadwy a Llwyfan Ymarfer
Amgylchedd TG ac TW wedi’i rithwiroli sydd wedi’i gynllunio ar gyfer efelychu ymosodiadau realistig, ymarferion SOC a gweithrediadau tîm coch yn erbyn tîm glas wedi’u cydgysylltu.
- Timau SOC
- Hela bygythiadau
- Hela bygythiadau
- Ymarferion Coch/Glas
Amgylcheddau TG ac TW wedi’u rhithwiroli, seilwaith SOC, VLANs wedi’u segmentu, systemau menter, amgylcheddau telemetreg a llwyfannau ymarfer seiber.
Rhedeg efelychiadau ymosodiadau seiber realistig, ymarferion monitro SOC, gweithgareddau hela bygythiadau a gweithrediadau ymateb i ddigwyddiadau wedi’u cydgysylltu ar draws systemau TG ac TW. Profi diogelwch ac effeithiolrwydd atebion seiber sy’n seiliedig ar DA.
Pecyn Hyfforddi PCB Cludadwy

Pecyn Cychwyn Diwydiannol i Ddechreuwyr
Amgylchedd rheoli diwydiannol addas i ddechreuwyr sy’n cyflwyno rhesymeg PLC, egwyddorion codio diogel a chyfathrebu HMI.
- Hyfforddiant TW i ddechreuwyr
- Hanfodion PLC
- Codio diogel
- Hanfodion diwydiannol
Rheolwyr PLC, cydrannau Arduino, HMIs, switshys â llaw a byrddau hyfforddi awtomeiddio.
Cyflwyno cyfranogwyr i awtomeiddio diwydiannol, datblygu rhesymeg PLC, arferion codio diogel a chyfathrebu HMI drwy ymarferion cychwynnol ymarferol.
PurdueWall

Llwyfan Segmentu a Diogelwch Rhwydweithiau TW
Amgylchedd segmentu TW pwrpasol sydd wedi’i gynllunio i ddangos parthau diogel, ffurfweddu muriau gwarchod a phensaernïaethau diwydiannol gwydn.
- Segmentu TW
- Model Purdue
- Ffurfweddu muriau gwarchod
- Pensaernïaeth ddiogel
Muriau gwarchod diwydiannol, switshys garw a seilwaith rhwydwaith sydd wedi’u cynllunio i gefnogi segmentu Model Purdue a chyfathrebiadau diwydiannol diogel.
Ffurfweddu a phrofi polisïau segmentu, llwybrau cyfathrebu diogel, rheolaethau mynediad o bell a phensaernïaethau muriau gwarchod diwydiannol ar draws amgylcheddau TW.
Amgylcheddau Rhithwir ac Efelychiedig

Gefeilliaid Digidol
Dyblygu systemau byw yn rhithiol i archwilio effaith newid neu ymosodiad mewn amgylchedd diogel.
Yn fwyaf addas ar gyfer:
- Gwydnwch gweithredol
- Profi newid
- Modelu seilwaith
- Asesu risg
Beth mae’n ei gynnwys?
Cynrychioliadau digidol o asedau ffisegol, prosesau gweithredol, pensaernïaethau rhwydwaith a dibyniaethau systemau sy’n adlewyrchu amgylcheddau’r byd go iawn.
Beth allwn ni ei wneud ag ef?
Modelu effaith digwyddiadau seiber, profi newidiadau gweithredol cyn eu rhoi ar waith, dilysu strategaethau gwydnwch ac archwilio sut y gallai aflonyddwch effeithio ar systemau rhyng-gysylltiedig heb beryglu gweithrediadau byw.

Efelychiadau Ffynhonnell Agored
Llwyfannau hyblyg o ffyddlondeb uchel i brofi amddiffynfeydd, hyfforddi timau ac ailadrodd yn gyflym ar raddfa.
Yn fwyaf addas ar gyfer:
- Hyfforddiant
- Ymarferion seiber
- Diogelwch ICS/TW
- Datblygu senarios yn gyflym
Beth mae’n ei gynnwys?
Llwyfannau efelychu ffynhonnell agored gan gynnwys gweithfeydd cemegol, gweithfeydd llenwi poteli, systemau metro a rheilffyrdd ac amgylcheddau prosesau diwydiannol eraill.
Beth allwn ni ei wneud ag ef?
Creu senarios ymosod ac amddiffyn seiber realistig, profi strategaethau monitro a chanfod, hyfforddi timau gweithredol a datblygu ymarferion yn gyflym heb fod angen seilwaith ffisegol.

Ystod Seiber
Amgylchedd wedi’i rithwiroli sy’n gallu modelu pensaernïaeth eich systemau a chynnal efelychiadau ymosod realistig.
Yn fwyaf addas ar gyfer:
- Timau SOC
- Hela bygythiadau
- Ymateb i ddigwyddiadau
- Ymarferion Coch/Glas
- Profi diogelwch DA
Beth mae’n ei gynnwys?
Rhwydweithiau menter wedi’u rhithwiroli, amgylcheddau TW, offer monitro diogelwch, seilwaith wedi’i segmentu, llwyfannau efelychu ymosodiadau a senarios ymarfer seiber.
Beth allwn ni ei wneud ag ef?
Modelu eich amgylchedd gweithredol, efelychu ymosodiadau seiber realistig, dilysu rheolaethau diogelwch, profi gweithdrefnau ymateb i ddigwyddiadau, rhedeg ymarferion tîm coch yn erbyn tîm glas wedi’u cydgysylltu, hyfforddi timau ac asesu diogelwch ac effeithiolrwydd atebion seiber sy’n seiliedig ar DA.

Rhith Amgylcheddau wedi’u Haddasu
Senarios wedi’u teilwra sy’n adlewyrchu topoleg eich rhwydwaith a’ch cynlluniau trawsnewid digidol.
Yn fwyaf addas ar gyfer:
- Seilwaith critigol
- Sefydliadau cymhleth
- Ymarferion pwrpasol
- Dilysu technoleg
Beth mae’n ei gynnwys?
Efelychiadau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol sy’n adlewyrchu pensaernïaeth eich rhwydwaith, technoleg weithredol, prosesau busnes, dibyniaethau seilwaith a thirwedd bygythiadau.
Beth allwn ni ei wneud ag ef?
Ail-greu amgylcheddau penodol i’ch sefydliad, datblygu ymarferion seiber wedi’u teilwra, profi strategaethau gwydnwch, dilysu gweithrediadau technoleg ac archwilio effeithiau seiber-gorfforol sy’n unigryw i’ch gweithrediadau.
Straeon Go Iawn, Gwydnwch Go Iawn
Edrychwch i weld sut roedd ein partneriaid wedi sicrhau mwy o wydnwch drwy hyfforddiant, llwyfannau profi, a chydweithio.


