
Diffinio Problemau Seiber Yfory
Mae CyberSight25 yn gweddnewid pethau o ran deall galw’r farchnad. Erbyn 2025, bydd 25 o arbenigwyr byd-eang yn diffinio 25 o broblemau seiber gan siapio dyfodol diogelwch.

Beth yw CyberSight25?
Mae’n anodd datblygu syniad o gysyniad i fod yn llwyddiant masnachol. Cael sylw’r farchnad yw’r prawf anoddaf un. Dyna pam mae CyberSight25 yn newid y drefn. Yn hytrach na dechrau gyda datrysiadau, rydym yn dechrau gyda phroblemau, yr heriau gwirioneddol sy’n cadw Prif Swyddogion Diogelwch Gwybodaeth, Prif Swyddogion Gwybodaeth, ac arweinwyr y diwydiant yn effro yn y nos. Erbyn 2025, bydd gennym 25 o heriau wedi’u diffinio’n glir, wedi’u siapio gan arbenigwyr ar draws y byd, gan greu map trywydd ar gyfer ymchwilio ac arloesi sy’n bwysig. Yr heriau hyn sy’n creu’r “galw yn y farchnad” sy’n sail i’n Rhaglen Datblygu Menter.
Cyfres Cipolwg
Gwyliwch arweinwyr seiber byd-eang yn cyflwyno eu heriau mwyaf, pob un yn broblem sy’n aros am y datrysiad priodol. Y cipolygon hyn sy’n sbarduno ein hymchwil a’n mentrau.
Cybersight 1: Metrigau seiberddiogelwch a dadansoddi cyfathrebiadau
Ivan Milenkovic yn cyflwyno’r broblem o’r hyn rydych chi’n ei fesur o ran eich seiberddiogelwch.
Cybersight 2: Rheoli ymddygiad a gwendidau defnyddwyr.
Kevin Fielder ar reoli ymddygiad a gwendidau defnyddwyr a allai arwain at risg.
Cybersight 3: Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol
Dr Kevin Jones ar risgiau a chyfleoedd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn diogelwch.
Cybersight 4: Cyflawni 100% gyda CMDB
Lineo Racoco ar werthuso a gwella effeithiolrwydd dulliau rheoli seiber.
Cybersight 5: Rheoli Risg Trydydd Parti
Justin Williams ar fynd i’r afael â risgiau diogelwch partneriaid a’r gadwyn gyflenwi.
Cybersight 6: Integreiddio amrywiaeth o ddatrysiadau diogelwch
Veroniki Stamati ar reoli sŵn data amryfal adnoddau diogelwch.
Cybersight 7: How secure is my human endpoint?
Yn y sesiwn CyberSight25 hon, mae Ishaaq Jacobs yn edrych ar gwestiwn hollbwysig i sefydliadau modern.
Cybersight 8: Cybersecurity Ethics
Mae David Bowen yn edrych ar yr heriau moesegol sy’n ymwneud â seiberddiogelwch.
CyberSight 9: Rheoli Gwendidau
Gwneud rheoli gwendidau’n gyflymach ac yn gliriach.
CyberSight 10: Mapio Llif Data a Risg Seiber Trydydd Partïon
Yn y sesiwn CyberSight25 hon, mae Ishaaq Jacobs yn edrych ar gwestiwn hollbwysig i sefydliadau modern.
CyberSight 11: Datrys Her Data Seiberddiogelwch
Mae David Bowen yn edrych ar yr heriau moesegol sy’n ymwneud â seiberddiogelwch.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae CyberSight25 yn sicrhau nad yw datrysiadau newydd yn cael eu datblygu ar wahân. Daw pob problem yn syth o reng flaen diwydiant, wedi’i phrofi, ei dilysu, a’i mynegi gan y rheini sy’n ei hwynebu bob dydd. Mae’r eglurder hwn yn torri drwy’r sylw a’r cyhoeddusrwydd ac yn sicrhau bod arloesedd yn digwydd lle mae ei angen fwyaf. I fentrau, ymchwilwyr, ac arloeswyr, mae CyberSight25 yn her ac yn gyfle: wrth ddatrys y problemau hyn, rydych chi’n datrys problemau y mae arweinwyr diogelwch ar draws y byd eisoes yn gofyn amdano.
Darparwyd gydag Alliances
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â thîm Alliances i wireddu CyberSight25 – gan ddefnyddio eu rhwydwaith a’u harbenigedd unigryw i gofnodi problemau seiber mwyaf heddiw ac yfory. Drwy ymgysylltu ag arweinwyr diwydiant ar draws sectorau, mae Alliances yn ein helpu i fynd y tu hwnt i ddealltwriaeth arwynebol i ddatgelu heriau sydd wir angen eu datrys. Ac nid proses un ffordd yw hon: os ydych chi’n arweinydd yn y diwydiant sydd â phroblem sydd angen sylw, gallwch ddod â hi i CyberSight25 a helpu i lunio dyfodol datrysiadau.

Oes gennych chi ddatrysiad?
Oes gennych chi syniad beiddgar sy’n mynd i’r afael â her CyberSight25? Rhannwch y syniad gyda ni, gallai fod yn gam cyntaf tuag at fenter newydd.