Oes gennych chi syniad seiber yr hoffech chi ei roi’n fyw? Ymateb i un o’n heriau

Newyddion

Sbotolau ar…Seiberddiogelwch yng Nghymru:

Yn y byd cydgysylltiedig sydd ohoni, mae seiberddiogelwch wedi dod yn fater pwysig iawn, ac nid yw Cymru yn eithriad.

rhannwch

Yn y byd cydgysylltiedig sydd ohoni, mae seiberddiogelwch wedi dod yn fater pwysig iawn, ac nid yw Cymru yn eithriad.

Datgelodd Arolwg tor-diogelwch seiber 2023 fod tua thraean o fusnesau’r DU (32%) a chwarter yr elusennau (24%) wedi dweud eu bod nhw wedi profi rhyw fath o dor-diogelwch seiber yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cyfrif am oddeutu 462,000 o fusnesau a 48,000 o elusennau cofrestredig. Y math mwyaf cyffredin o bell ffordd yw gwe-rwydo – diffinnir hyn yng nghyd-destun yr arolwg hwn fel staff yn cael negeseuon e-bost twyllodrus neu’n cael eu cyfeirio at wefannau twyllodrus.

Mae gan Gymru ecosystem dechnoleg lewyrchus – yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, amcangyfrifir bod sector technoleg y genedl werth £8.5 biliwn i economi Cymru ac mae’n parhau i dyfu. Mae bron i 45,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd yn yr Economi Ddigidol yng Nghymru, sy’n ategu rôl hanfodol seiberddiogelwch o ran diogelu’r ecosystem ddigidol ffyniannus hon.

Yn ffodus, nid yw Cymru’n camu’n ôl yn wyneb yr heriau hyn ac mae’n arwain rhywfaint o’r gwaith mwyaf diddorol ac arloesol ym maes seiber. Mae gan Gymru ecosystem gadarn sy’n seiliedig ar yr helics triphlyg o fuddsoddiadau strategol a chymorth gan y Llywodraeth, busnesau a sefydliadau addysgol sy’n ymroddedig i seiberddiogelwch. Mae hyn yn rhoi sylfaen gadarn i gwmnïau Seiberddiogelwch dyfu ac i’r sector Technoleg ffynnu’n ddiogel mewn oes o Drawsnewid Digidol.

Cynllun Gweithredu Seiber y Llywodraeth: Mae Cynllun Gweithredu Seiber Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth i Gymru ffynnu drwy gadernid, talent ac arloesedd ym maes seiber. Mae hyn yn golygu bod pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus mor ddiogel ac mor barod ag y gallant fod i wrthsefyll ymosodiadau seiber. Mae hyn hefyd yn golygu bod gennym ni’r sgiliau a’r gweithlu cywir i gyflawni ein gweledigaeth a bod gennym economi seiber ffyniannus ar waith. Mae gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRD) seiberddiogelwch fel piler strategol craidd i alluogi twf a ffyniant economaidd sicr. Mae CCRD a Llywodraeth Cymru wedi cyd-ariannu Canolfan Arloesi seiber Cymru i sbarduno twf ymysg pobl fedrus sy’n barod i weithio ym maes seiber, a nifer y cwmnïau seiber sydd wedi’u hangori a’u tyfu yng Nghymru.

 

Prifysgolion fel Canolfannau Rhagoriaeth: Mae gan Gymru rai o brifysgolion gorau’r DU yn y sector, gyda Phrifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC); a Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn cael eu cydnabod fel Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch. Gyda hanes llwyddiannus o ymchwil o’r radd flaenaf yn pontio i gymwysiadau diwydiannol, ac o ddarparu hyfforddiant seiber ymarferol, mae’r sefydliadau nodedig hyn ar flaen y gad o ran darparu arloesedd arloesol ym maes seiberddiogelwch. Mae’r prifysgolion hyn yn meithrin cronfa dalent o weithwyr seiber proffesiynol sydd â’r gallu i fynd i’r afael â bygythiadau sy’n dod i’r amlwg, a chynhyrchu ymchwil a sgiliau o’r radd flaenaf i fodloni gofynion y sector.

 

Cwmnïau Byd-eang Blaenllaw: Rydyn ni eisoes yn gartref i gwmnïau byd-eang blaenllaw yn y diwydiant seiber. Amcangyfrifir bod 49 o swyddfeydd cofrestredig a 138 o swyddfeydd seiberddiogelwch gweithredol yng Nghymru, sy’n cyflogi 4% o weithwyr seiberddiogelwch proffesiynol yn y DU. (https://www.gov.uk/government/publications/cyber-security-sectoral-analysis-2023/uk-cyber-security-sectoral-analysis-2023#location-of-cyber-security-firms-uk).

Mae llawer o gysylltedd a chydweithio rhwng cwmnïau, prifysgolion, llywodraeth a sefydliadau cymorth yng Nghymru, sydd wedi gwneud Cymru yn lle da ar gyfer arloesedd ac arbenigedd ym maes seiberddiogelwch.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn tynnu sylw at rai o’r bobl allweddol ym maes seiber yng Nghymru, sydd ar flaen y gad o ran darparu atebion arloesol a meithrin cydweithio yn y diwydiant.

Newyddion Arall

Cofrestrwch i'n cylchlythyr

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a’r technolegau seiberddiogelwch diweddaraf trwy ymuno â chylchlythyr y Cyber Innovation Hub heddiw.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i’n gwefan: polisi preifatrwydd We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.