Oes gennych chi syniad seiber yr hoffech chi ei roi’n fyw? Ymateb i un o’n heriau

Newyddion

Lansio Hyb Arloesedd Seiber

Yng Nghaerdydd heddiw lansiwyd yn ffurfiol Hyb Arloesedd Seiber (CIH) sy’n ceisio trawsnewid De Cymru i fod yn glwstwr blaenllaw.

rhannwch

Mae CIH yn canolbwyntio ar drawsnewid De Cymru yn glwstwr seiberddiogelwch blaenllaw erbyn 2030.  Ei nod yw gwneud hyn gan greu cyflenwad o’r radd flaenaf o gynhyrchion seiberddiogelwch newydd, busnesau twf uchel, a thalent â sgiliau technegol.

Arweinir CIH gan Brifysgol Caerdydd ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), ochr yn ochr â gwybodaeth gan bartneriaid megis Airbus, Sefydliad Alacrity, CGI, Thales, Tramshed Tech, a Phrifysgol De Cymru.

Ymunodd gwleidyddion, arweinwyr diwydiant, academyddion a chyllidwyr o bob cwr o’r DU â’r lansiad yn adeilad Abacws y Brifysgol.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru’n falch o gyd-ariannu’r CIH yn ei ymgyrch i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o brif glystyrau seiber y DU erbyn 2030.

“Bydd gan CIH ran hanfodol mewn cefnogi economi Cymru drwy greu swyddi uchel eu gwerth a gweithlu medrus i fodloni gofynion y sector seiberddiogelwch.

“Bydd yr Hyb hefyd yn helpu i wireddu’r weledigaeth a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Seiber i Gymru a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru drwy hyrwyddo cydweithio a phartneriaethau cryf fel y gallwn adeiladu ar ein hecosystem seiber a’i datblygu, gan ddod â budd pellach fyth i’r economi a sicrhau dyfodol ffyniannus a gwydn i Gymru.”

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3 miliwn yn yr Hyb newydd dros 2 flynedd, gyda £3 miliwn o gyllid ar y cyd gan CCR a £3.5 miliwn o arian cyfatebol mewn da gan bartneriaid y consortiwm.

Pwysleisiodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr, CCR, bwysigrwydd y clwstwr i’w ardal.

“Mae CIH yn cynnig cyfle unigryw i ddod â phedair elfen gefnogol ynghyd – y byd academaidd, y llywodraeth, busnesau a chyfalaf – i greu strwythur ar gyfer creu menter newydd, arloesi a sgiliau sy’n rhoi mantais gystadleuol i CCR yn erbyn rhanbarthau eraill yn y DU.”

 

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS:

“Roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yn y digwyddiad i lansio’r Hyb Arloesedd Seiber ym Mhrifysgol Caerdydd a chlywed am y potensial gwych i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ddod yn arweinydd mewn seiberddiogelwch, gan greu swyddi sy’n cynnig cyflog da mewn sector sy’n tyfu’n anhygoel o gyflym.

“Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd enw da iawn eisoes am seiberddiogelwch a bydd y ganolfan hon yn dod ag ymchwilwyr, arloeswyr a diddordebau busnesau ynghyd a bydd yn newid sylweddol i’r sector. Mae Llywodraeth y DU yn falch o fod wedi cyfrannu £3m sydd, ynghyd â’n partneriaid, wedi helpu i sicrhau hyn.”

Cydnabyddir Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru gan y Ganolfan Genedlaethol Seiberddiogelwch (rhan o GCHQ) fel Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd ym meysydd ymchwil ac addysg.

Meddai’r Athro Pete Burnap, Cyfarwyddwr CIH:

“Diolch i Lywodraeth Cymru a chefnogaeth CCR, mae gan CIH y cyfle i gyflymu twf y sector seiber yn Ne Cymru.  Dyma gyfle unigryw i gyfuno’r arbenigedd presennol a’r buddsoddiadau yn y rhanbarth drwy weithio ar y cyd i sicrhau canlyniadau. Rydym yn anelu at dyfu nifer y cwmnïau seiberddiogelwch sydd wedi eu lleoli yng Nghymru o 50% ac uwchsgilio 1500 o bobl gyda sgiliau technegol ymarferol trwy gyfnodau hyfforddiant byr, fforddiadwy.  Mae cwmnïau sector preifat a chyhoeddus bellach yn datblygu heriau seiber sy’n cael eu harwain gan y farchnad, rydym yn paru’r rhai sy’n creu’r syniadau gorau gyda thalent entrepreneuraidd i adeiladu timau sy’n datblygu IP o ansawdd uchel yn gyflym a chynhyrchion seiber newydd. Yn ystod y broses hon, rydym yn gweithio gyda’r ecosystem ariannu a’r busnesau sy’n cychwyn yng Nghymru i sicrhau bod y cwmnïau hyn yn datblygu’n bwrpasol ac yn gallu masnachu ledled y Byd.

“Mae CIH eisoes wedi cymryd camau breision yn y 6 mis ers i’r prosiect ddechrau. Mae’r gwaith o recriwtio staff ar y gweill a sefydlu byrddau cynghori a llywodraethu allanol o’r sector preifat a chyhoeddus. Rydym yn datblygu ein her gyntaf sy’n cael ei harwain gan y farchnad gyda thri busnes newydd yn seiliedig ar syniadau sy’n deillio o ymchwil PhD a gafodd eu harddangos yn y lansiad heddiw. Rydym hefyd yn datblygu arolwg i gyflogwyr ddarganfod mwy am yr anawsterau y maent yn eu hwynebu wrth recriwtio pobl â sgiliau seiber.”

Yn ôl Dadansoddiad Sectoraidd Seiberddiogelwch o Lywodraeth y DU o 2022, mae tua 46 o fusnesau seiber cysylltiedig wedi’u cofrestru yng Nghymru, gan gyflogi 4% o’r holl weithwyr proffesiynol seiberddiogelwch sydd wedi’u lleoli yn y DU, gyda chyflog wedi’i hysbysebu ar gyfartaledd o £49,600. Mae CIH hefyd yn anelu at ddenu cwmnïau nad ydynt eto wedi’u lleoli yng Nghymru i symud yma, yn seiliedig ar y gweithgareddau datblygu talent arloesol, a fyddai’n creu mwy o swyddi gwerth uchel i bobl leol.

Mae’r Hyb Arloesedd Seiber wedi’i leoli yn sbarc|spark sy’n gartref i bobl dalentog sy’n creu mentrau newydd. Mae sbarc|spark yn cysylltu entrepreneuriaid, sefydliadau ac arweinwyr y sector cyhoeddus gydag ymchwilwyr o’r radd flaenaf a chynghorwyr proffesiynol.

Newyddion Arall

Cofrestrwch i'n cylchlythyr

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a’r technolegau seiberddiogelwch diweddaraf trwy ymuno â chylchlythyr y Cyber Innovation Hub heddiw.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i’n gwefan: polisi preifatrwydd We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.