Tramshed Tech
Yn Tramshed Tech, rydym yn canolbwyntio ar dair elfen graidd; mannau gwaith hyblyg sy’n tyfu gyda chi, rhaglenni cymorth cychwyn a chynyddu technoleg a hyfforddiant sgiliau busnes. Mae gennym ni gasgliad o weithleoedd ar draws De Cymru sy’n cynnwys cydweithio, gofod swyddfa, ystafelloedd cyfarfod, gofod digwyddiadau a stiwdios podlediadau – ond dim ond blaen y mynydd iâ yw ein gofodau ni. Rydym yn darparu rhaglenni magu a chyflymu sydd wedi’u cynllunio i gefnogi rhai o gwmnïau newydd a chyflymu technoleg mwyaf cyffrous Cymru.
Mae rhaglenni’n cynnwys The Startup Academy a Chlwstwr Allforio Technoleg Llywodraeth Cymru. Gyda rhwydwaith rhyng-gysylltiedig o bartneriaid strategol ar draws y byd, mae Tramshed Tech nid yn unig wedi’i anelu at gefnogi busnesau Cymreig i dyfu’n rhyngwladol, ond hefyd yn cefnogi busnesau rhyngwladol sydd am ddechrau a thyfu yng Nghymru.