Prifysgol De Cymru
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn un o brifysgolion mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol Prydain. Yn arloesol, yn ffyniannus ac yn gynaliadwy, rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i’n myfyrwyr, ein cymunedau a’n partneriaid yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Mae PDC yn gosod ymgysylltu, cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio ochr yn ochr â busnes, diwydiant, a’r economi gymdeithasol, i fynd i’r afael ag anghenion a nodwyd a chyflawni’r canlyniadau gorau i ddysgwyr a sefydliadau unigol. Rydym yn gweithio ar y cyd â diwydiant, gan ymchwilio ac arloesi i fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf, o ynni ac iechyd i ddiogelwch a chynaliadwyedd.
Yma ym Mhrifysgol De Cymru, mae gennym Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ar Gampws Dinas Casnewydd. Mae’r Academi yn llenwi’r bwlch sgiliau yn y diwydiant trwy ddarparu hyfforddiant ymarferol i alluogi ein myfyrwyr i arwain y frwydr yn erbyn troseddau seiber.
Mae’r Academi hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio gyda chleientiaid ar amrywiaeth o brosiectau byw gan gynnwys profion hacio, glanhau digidol ac ymchwilio i risgiau diogelwch.
Mae ein cyrsiau Seiber wedi ennill gwobrau gyda llawer o gyrsiau wedi’u hachredu gan BCS. Mae tri o’n cyrsiau wedi’u hardystio gan yr NCSC, sy’n rhan o GCHQ. Rydym hefyd yn falch iawn o gael ein cydnabod gan yr NCSC fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch – gwobr Aur.
Mae Prifysgol De Cymru wedi’i henwi’n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am bedair blynedd yn olynol yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol 2019-2022 ac rydym yn falch o’n hystadegau graddedigion rhagorol.
Darganfyddwch fwy: https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/astudio/pynciau/graddau-seiber-ddiogelwch/