Ein Hyfforddwyr Sgiliau
Mae ein cyrsiau hyfforddi yn cael eu darparu ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, y ddau wedi’u hachredu gan ACE-CSE (Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch). Gyda hanes profedig o ddarparu hyfforddiant ymarferol, mae'r sefydliadau urddasol hyn ar flaen y gad o ran darparu addysg flaengar ym maes seiberddiogelwch.
Dysgwch fwy am ein hyfforddwyr sgiliau isod.
Uwch Hyfforddwr Sgiliau Awais Muhammed
Mae gan Awais dros saith mlynedd o brofiad yn y diwydiant yn gweithio ar draws ystod eang o barthau Seiberddiogelwch. Yn raddedig MSc o Brifysgol De Cymru, mae’n arwain y tîm o hyfforddwyr sgiliau yn yr Hyb Arloesedd Seiber i gyflwyno cyrsiau a grëwyd mewn partneriaeth â diwydiant ac sy’n targedu’r heriau penodol a wynebir gan gwmnïau Seiber yn Ne Cymru ac ar draws y gymuned dechnoleg ehangach. Mae ganddo brofiad uniongyrchol o drin digwyddiadau, asesu bregusrwydd, profi treiddiad, a datblygu llawlyfrau mewn amgylchedd masnachol cyflym, cyfaint uchel. Mae hefyd yn hyddysg mewn trefnu gweinyddiaeth Windows a monitro seilweithiau rhwydwaith cymhleth. Mae’n defnyddio’r wybodaeth hon i greu cynnwys sy’n galluogi ein dysgwyr i weld sut y gall y sgiliau y maent yn eu dysgu gael effaith yn y byd go iawn, a chymryd rhan weithredol yn y dysgu.
Hyfforddwr Sgiliau Ashish Nair
Mae Ashish wedi graddio o raglen Meistr Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd gyda dros wyth mlynedd o brofiad yn y diwydiant mewn rheoli risg a dadansoddeg. Mae ganddo wybodaeth a phrofiad arbenigol gyda pharhad busnes, strategaeth TG a Seiber, a gweithredu systemau diogelwch. Daw Ashish â’r cymysgedd unigryw hwn o sgiliau a phrofiad i ddyluniad cyrsiau sy’n galluogi’r dysgwr i gymhwyso’r sgiliau a addysgir gan ddefnyddio senarios bywyd go iawn ac astudiaethau achos.
Hyfforddwr Sgiliau Iftikhar Ahmad
Mae Iftikhar yn frwd dros feithrin y don nesaf o bencampwyr seiber. Yn raddedig gydag MS mewn Seiberddiogelwch Prifysgol De Cymru, mae’n creu cyrsiau diddorol, gan gydlynu â diwydiant proffil uchel a phartneriaid academaidd i wella parodrwydd seiber ei ddysgwyr. Mae Iftikhar yn arbenigo mewn trefnu swyddogaethau llywodraethu seiberddiogelwch gyda dull sy’n canolbwyntio ar risg a mentrau datblygu symudol dan arweiniad sy’n darparu datrysiadau dylanwadol gyda sbrigyn o arloesi. Fel hen ben ar gwmniau cychwynnol, mae’n dod â phersbectif newydd i’r tîm sgiliau, gan sicrhau bod ein cyrsiau’n berthnasol ac yn gyfredol.
Dysgwch fwy am ein cynnig Sgiliau a Hyfforddiant
SGILIAU A HYFFORDDIANT Hyfforddiant ymarferol cryno
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau uwchsgilio ymarferol i bobl ar wahanol gamau yn eu gyrfa. Bydd y cyrsiau’n fyr, sy’n golygu y gellid eu cymryd gyda’r nos, ar benwythnosau a thros gyfnodau byr o amser i gyd-fynd â phatrymau gwaith cyflogwyr ac anghenion yr unigolyn.
Dysgwch fwy am ein cynnig Hyfforddiant a Sgiliau